Arfer Da Dyletswydd Bioamrywiaeth

Yn dibynnu ar eich maint a'ch swyddogaethau, mae yna ystod o bethau y gall eich sefydliad eu gwneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth a bywyd gwyllt, o adolygu eich polisïau caffael, i greu a rheoli cynefinoedd trwy drefniadau i beidio â thorri'r gwair mor aml, a dylanwadu ar fentrau mwy ar raddfa'r dirwedd.

Mae enghreifftiau posibl yn cynnwys darparu cynefinoedd bywyd gwyllt, blychau nythu, banciau gwenyn, toeau gwyrdd, a systemau draenio cynaliadwy, lleihau'r defnydd o ynni, ailgylchu a chaffael yn lleol ac o ffynonellau cynaliadwy. Lle mae eich sefydliad yn berchen ar dir neu'n ei reoli, bydd arfer dulliau rheoli sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt yn rhoi hwb calonogol i fioamrywiaeth. Bydd cynnwys eich staff wrth gynllunio a rheoli natur yn ymgorffori bioamrywiaeth yn eich sefydliad. Anogir hefyd ddiwrnodau gwirfoddoli staff gyda sefydliadau partner i reoli cynefinoedd a chymryd rhan mewn gwaith cofnodi natur trwy fentrau gwyddoniaeth dinasyddion.

Mae Cynllun Adfer Natur Cymru yn rhestru chwe amcan y dylid eu defnyddio i helpu i sefydlu eich blaenoriaethau a'ch camau gweithredu o ran bioamrywiaeth, ynghyd â rhestrau adran 7 o'r cynefinoedd a'r rhywogaethau â blaenoriaeth yng Nghymru, yr Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol ( SoNaRR) a'r Datganiadau Ardal (pan gânt eu cyhoeddi).

Mae ffynonellau cyngor ac enghreifftiau eraill yn cynnwys dogfen yr Ymddiriedolaethau Natur, Gweithredu Dros Fywyd Gwyllt , a dogfen Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Buddsoddi Mewn Natur, sy'n fannau cychwyn rhagorol. Er mwyn cael rhagor o syniadau ynglŷn â pha gamau i’w cymryd i fynd i’r afael â dyletswydd s6, gweler y camau gweithredu yn y rhaglen ‘Y Gallu i Greu’.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r camau y gallwch eu cymryd i helpu bioamrywiaeth yna cysylltwch â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a all ddarparu ffynonellau cyngor ac arweiniad ychwanegol, neu eich cyfeirio atynt. Os oes gennych gwestiynau ynghylch y ddeddfwriaeth neu'r dogfennau canllaw yna cyfeiriwch eich ymholiad at S6BiodiversityDuty@gov.wales


Enghreifftiau o arferion da gan awdurdodau cyhoeddus yng Nghymru o ran cydymffurfio â'u dyletswydd fioamrywiaeth o dan adran 6

Dylai camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i helpu bioamrywiaeth fod yn seiliedig i’r graddau y bo hynny’n bosibl ar 6 amcan Cynllun Gweithredu Adfer Natur sydd wedi’u nodi er mwyn helpu i wrthdroi dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru. Felly, mae pob enghraifft yn cynnwys cyfeiriad at yr amcan/amcanion perthnasol. Dyma’r 6 amcan:

Amcan 1: Ennyn a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn i fioamrywiaeth fwrw gwreiddiau yn y broses benderfynu ar bob lefel.

Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd sydd o'r pwys mwyaf a'u rheoli'n well

Amcan 3: Gwneud ein hamgylchedd naturiol yn fwy cydnerth drwy adfer cynefinoedd sydd wedi'u diraddio a chreu cynefinoedd

Amcan 4: Mynd i'r afael â'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd

Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n gwaith monitro

Amcan 6:Rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith i gyflawni’r amcanion.

Mae gwybodaeth fanylach am bob amcan ar gael yma


Daw'r enghreifftiau yn y dolenni canlynol gan awdurdodau cyhoeddus ledled Cymru i ddangos rhai o'r camau y gellir eu cymryd i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i hyrwyddo cadernid ecosystemau. Maent wedi'u rhannu'n dri grŵp yn seiliedig ar p'un a oes ganddynt swyddogaeth rheoli tir ac i ba raddau y maent yn ymwneud â bioamrywiaeth.


Grŵp 1

Disgrifiad o'r sefydliad mewn perthynas â bioamrywiaeth

  • yn berchen ar ddim ond adeilad swyddfa, neu'n ei feddiannu
  • nid yw ei swyddogaethau wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â bioamrywiaeth a/neu reoli tir.

Camau Gweithredu Gofynnol

Camau gweithredu sy'n ymwneud â rheoli adeiladau, caffael, cynaliadwyedd, meithrin ymwybyddiaeth, hyfforddi, neu mewn partneriaeth â sefydliadau eraill

Awdurdod Lleol

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r allyriadau carbon sy’n deillio o gynnal y swyddfa yn cael eu gwrthbwyso trwy gyflwyno rhodd bob blwyddyn i’r elusennau Coed Cadw a Maint Cymru.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae wedi sefydlu grŵp staff hyrwyddwyr yr amgylchedd i hyrwyddo egwyddor cynaliadwyedd a chodi ymwybyddiaeth o fentrau staff amrywiol, gan gynnwys mentrau sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r mentrau’n cynnwys:

  • Cymryd rhan mewn pedwar cynllun i ailgylchu gwastraff sy’n anodd i’w ailgylchu fel arfer gan gynnwys Cynllun Ailgylchu Pladis Biscuits and Snacks a’r Cynllun Ailgylchu Pecynnau Creision.
  • Cymryd rhan yn y digwyddiad glanhau traethau a drefnwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus ym mis Medi 2018, gyda chydweithwyr yn mynychu digwyddiadau ar dri thraeth ledled Cymru.
  • Cynnal grŵp cyfryngau cymdeithasol mewnol gweithgar a gweithdai ‘cinio a dysgu’ sy’n rhannu syniadau ar gyfer lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 6


Awdurdod Lleol

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae rhaglen i ddisodli goleuadau presennol â bylbiau LED ac annog staff ac ymwelwyr i ddiffodd goleuadau a systemau gwres/aerdymheru os nad ydynt yn cael eu defnyddio wedi arwain at ostyngiad o 13% yn y defnydd o drydan ers 2016/17

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Comisiynydd Plant Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Oherwydd effaith negyddol bosibl goleuadau ar bryfed, a’r potensial i arbed ynni, bydd tîm prosiect llety’r Comisiynydd yn archwilio’r goleuadau y tu mewn a’r tu allan i adeilad y swyddfa yn ystod oriau tywyllwch.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Addysg a Gwella Iechyd Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mentrau gwahanol i hyrwyddo mwy o deithio cynaliadwy. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys darparu cyfleusterau priodol fel bod staff yn gallu beicio i’r gwaith, cyflwyno cynllun beicio i’r gwaith a darparu tri safle pweru trydan.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Comisiynydd Plant Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Comisiynydd wedi cynnwys y ddyletswydd bioamrywiaeth yn ei fframwaith gwerthuso perfformiad, ac mae’n adrodd ar sut y mae’n cydymffurfio â’r ddyletswydd yn ei adroddiad blynyddol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1


Awdurdod Lleol

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae camau wedi’u cymryd i leihau faint o bapur sy’n cael ei ddefnyddio gyda’r nod o fod yn swyddfa ddi-bapur. Mae mentrau’n cynnwys defnyddio cofnod achos electronig fel cofnod achos diffiniol, a chynnwys manylion penawdau llythyrau mewn dogfennau electronig i ddileu’r angen am argraffu ar benawdau llythyrau. Hefyd, gofynnwyd i sefydliadau sy’n rhan o awdurdodaeth yr Ombwdsmon gysylltu ar ffurf electronig lle y bo modd.

Gwybodaeth Ychwanegol

O ganlyniad, nid oes unrhyw ffeil bapur yn cael ei chadw yn y rhan fwyaf o achosion, gan helpu i sicrhau gostyngiad o 38% yn y lefel o wastraff cyfrinachol rhwng 2016/17 a 2018/19.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Fel rhan o ymgyrch 30 Diwrnod Gwyllt yr Ymddiriedolaeth Natur fe aeth aelodau staff ati i gymryd rhan mewn digwyddiad casglu sbwriel yn yr ardal ger eu swyddfa.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Darparu cymorth i staff er mwyn hyrwyddo’r defnydd o deithio cynaliadwy. Mae hyn yn wedi cynnwys cymorth i staff lesio cerbydau allyriadau isel iawn, cyfleusterau storio beiciau a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, gan arwain at ostyngiad o 44% mewn milltiredd ceir yn 2018-19.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Ym mis Hydref 2019, cymerodd y staff ran mewn diwrnod gwirfoddoli gyda Chanolfan Arfordir Treftadaeth Morgannwg, Parc Dunraven. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys casglu sbwriel a phlastig a chynnal a chadw glaswelltiroedd Arfordir Treftadaeth.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3 a 4


Awdurdod Lleol

Comisiynydd Plant Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’n sicrhau bod deunyddiau organig, bioddiraddadwy neu ddeunyddiau wedi’u hailgylchu yn cael eu hystyried wrth archebu cyflenwadau swyddfa, gan gynnwys deunyddiau glanhau, offer swyddfa, eitemau am ddim a deunyddiau celf. (Ymchwilio i argaeledd eitemau am ddim sy’n hyrwyddo bioamrywiaeth, fel hadau blodau neu becynnau syniadau ar gyfer bioamrywiaeth fel creu cartrefi i fygiau.)

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3 a 4


Adran 6 Grŵp Un Sefydliadau a Chamau Gweithredu formatt pdf

Grŵp 2

Disgrifiad o'r sefydliad mewn perthynas â bioamrywiaeth

  • yn berchen ar dir sy'n cynnwys ei adeiladau a'i safle eu hun, neu'n eu meddiannu neu eu rheol,
  • mae ei swyddogaethau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir, neu
  • yn gallu dylanwadu ar y rhai sy'n berchen ar dir neu'n ei reoli

Camau Gweithredu Gofynnol

Fel yn achos Grŵp 1 uchod, YN OGYSTAL Â rheoli tir, rhaeadru meini prawf cyllido, a darparu addysg a hyfforddiant

Awdurdod Lleol

Prifysgol Abertawe

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Cyhoeddodd y Brifysgol Gynllun Gweithredu Bioamrywiaeth (2016-2020) sy’n prif ffrydio cynnydd bioamrywiaeth yn y gwaith o ddatblygu a chynnal ystâd y Brifysgol trwy fentrau fel sefydlu gweithgor traws adrannol i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r Cynllun.

Gwybodaeth Ychwanegol
Roedd Cynllun y Brifysgol yn cynnwys targed ar gyfer cynnydd bioamrywiaeth net wrth ddatblygu’r campws, ac mae’r targed hwn wedi’i gyrraedd i raddau helaeth. Y mwyaf llwyddiannus oedd y mur gwyrdd yn yr Ystafell Ddosbarth Actif. Yma, mae rhywogaethau cynhenid ar gyfer pryfed peillio wedi’u plannu, ac mae’n gweithredu fel meithrinfa fel bod Stoc y Môr yn gallu hybu’r boblogaeth ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 2, 3 a 6


Awdurdod Lleol

Swyddfa Eiddo Deallusol

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn hyrwyddo bioamrywiaeth trwy beidio â thorri’r glaswellt ar bob rhan o’i safle. Er enghraifft, bydd yn osgoi torri rhan ar hyd llinell ffens fel bod y glaswellt a’r mieri yn gallu tyfu. Bydd unrhyw ganghennau sydd wedi’u torri yn cael eu gadael ar y ddaear i bydru’n naturiol a darparu cynefin ar gyfer bygiau amrywiol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Swyddfa Eiddo Deallusol

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn hyrwyddo bioamrywiaeth trwy beidio â thorri’r glaswellt ar bob rhan o’i safle. Er enghraifft, bydd yn osgoi torri rhan ar hyd llinell ffens fel bod y glaswellt a’r mieri yn gallu tyfu. Bydd unrhyw ganghennau sydd wedi’u torri yn cael eu gadael ar y ddaear i bydru’n naturiol a darparu cynefin ar gyfer bygiau amrywiol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Prifysgol Caerdydd

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’n rhaid i’r holl staff a myfyrwyr gwblhau cyfnod sefydlu Cynaliadwyedd y Brifysgol.

Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cyflwyniad yn cynnwys adran ar ddyletswydd bioamrywiaeth Adran 6, strategaeth a chynllun gweithredu bioamrywiaeth y Brifysgol, ynghyd â gwybodaeth am nifer o brosiectau’r Brifysgol, gan gynnwys Gwyrddu Cathays, ei statws Caru Gwenyn a’r prosiect Clychau’r Gog.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1


Awdurdod Lleol

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Cafodd to gwyrdd ei gynnwys yn y dyluniad ar gyfer y Campws Gwyddor Data yn ystod 2017/18, ac mae’n cael ei gynnal i gefnogi bioamrywiaeth.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Asiantaeth yn gweithio gyda’i phartneriaid i leihau llygredd golau trwy dreialu gwaith i ailosod goleuadau LED sbectrwm coch dwfn, a fydd yn aflonyddu llai ar rywogaethau o ystlumod sy’n bwydo ar y safle.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4


Awdurdod Lleol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Asiantaeth wedi cyhoeddi cynllun Gwneud Lle i Natur sy’n nodi’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae’n rhannu’r camau hyn yn bum adran, ac un ohonynt yw datblygu ein hystâd. Mae hyn yn cynnwys chwilio am gyfleoedd i hyrwyddo bioamrywiaeth a chefnogi gwenyn a bywyd gwyllt ar yr ystâd. Er enghraifft, gwaith plannu priodol ac amrywiol, ardaloedd blodau gwyllt ar gyfer pryfed peillio, ac osgoi torri’r glaswellt mewn rhai mannau. Hefyd, mae’n cynnwys ei staff ac yn gofyn am arweiniad arbenigol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol
Hefyd, mae’r cynllun yn cynnwys mentrau i hyrwyddo manteision gwirfoddoli, yn enwedig yng nghyd-destun natur/mannau gwyrdd ac annog staff i ystyried sut y gellid rhoi syniadau ar gyfer yr ardd/mannau gwyrdd ar waith ar safleoedd lleol y sefydliad.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 3 a 6


Awdurdod Lleol

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro)

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Gwaith ar y cyd â Phartneriaeth Natur Sir Benfro. Nodwyd nodweddion cadwraeth allweddol a allai fod mewn perygl yn ystod ymatebion i argyfyngau. Cafodd y nodweddion hyn eu mapio a’u darparu fel haen GIS ar gyfer diffoddwyr tân sy’n teithio i ddigwyddiadau (pan nad yw bywyd yn y fantol). Maent yn cynnwys lleoliad clwydau ystlumod beichiog, mannau adar y ddaear sy’n nythu, a lleoliad rhywogaethau estron goresgynnol a gludir gan ddŵr na ddylai gael ei ddefnyddio fel ffynhonnell dŵr i ddiffodd tanau.

Gwybodaeth Ychwanegol
Effaith diriaethol ar gynnal a gwella bioamrywiaeth. Codi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ac ymgysylltu â’r cyhoedd yn ardal yr Awdurdod Lleol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 5


Awdurdod Lleol

Prifysgol Caerdydd

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Torri’r glaswellt yn llai aml mewn ardal a oedd yn arfer bod yn lawnt.

Gwybodaeth Ychwanegol
Erbyn hyn, mae nadroedd defaid yn byw ar y safle, ac maent yn cael eu monitro gan wirfoddolwr. Mae’r gwirfoddolwr yn darparu llawer o ffotograffau ar gyfer grŵp cyfryngau cymdeithasol Bywyd Gwyllt a Blodau Gwyllt y Brifysgol er mwyn addysgu eraill am y rhywogaeth. Mae’r glaswellt sy’n gartrefi i’r nadroedd defaid ond yn cael ei dorri unwaith y flwyddyn ym mis Tachwedd.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 2 a 3


Awdurdod Lleol

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Fel rhan o’i Chynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, mae gan yr Asiantaeth restr o blanhigion cynhenid a rhestr ‘peidio â defnyddio’ sy’n cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau wrth blannu ar ei safleoedd.

Gwybodaeth Ychwanegol
Helpu i ddileu rhywogaethau estron a hyrwyddo’r broses o blannu planhigion a choed cynhenid.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3 a 4


Awdurdod Lleol

Prifysgol Caerdydd

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae tîm rheoli tiroedd chwaraeon y Brifysgol wedi datblygu strategaeth ar gyfer rheoli rhywogaethau estron.

Gwybodaeth Ychwanegol
Mae pob achos o glymog Japan a Jac y Neidiwr ynghyd â rhywogaethau cynhenid goresgynnol fel mare’s tail a rhedyn yn cael ei adrodd i reolwr y tiroedd, a’i gofnodi. Mae cynllun triniaeth yn cael ei ddynodi ar gyfer pob rhywogaeth, sy’n cynnwys cemegyn a argymhellir, nifer y triniaethau, a gwaith monitro dilynol. Mae’r strategaeth hon wedi llwyddo i leihau nifer yr ardaloedd sy’n parhau i gael eu heffeithio gan rywogaethau goresgynnol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4 a 6


Awdurdod Lleol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth
Mae’r Asiantaeth wedi cyflwyno nifer o fentrau o dan ei chynllun caffael cynaliadwy er mwyn ceisio cynnal a gwella bioamrywiaeth. Mae’r mentrau hyn yn cynnwys adolygu archeb papur gorfforaethol yr Asiantaeth er mwyn sicrhau bod y papur yn deillio o goedwigoedd cynaliadwy, lleihau faint o bapur y mae’n ei ddefnyddio, adolygu ei chyflenwadau glanhau corfforaethol i sicrhau eu bod yn fioddiraddadwy, a chwilio am gyfleoedd eraill i gaffael nwyddau sy’n fioddiraddadwy a/neu sydd wedi’u gwneud o ddeunydd wedi’i ailgylchu trwy ddefnyddio prosesau caffael lleol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 4


Adran 6 Grŵp Dau Sefydliadau a Chamau Gweithredu fformat pdf

Grŵp 3

Disgrifiad o'r sefydliad mewn perthynas â bioamrywiaeth

  • yn berchen ar dir y tu hwnt i'w safle ei hun, neu'n ei reoli, p'un a yw ei swyddogaethau'n gysylltiedig â bioamrywiaeth a/neu reoli tir ai peidio.

Camau Gweithredu Gofynnol

Fel yn achos Grwpiau 1 a 2 uchod, YN OGYSTAL Â rheoli tir er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth, a hyrwyddo cadernid ecosystemau.

Awdurdod Lleol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Awdurdod wedi cyhoeddi Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem sy’n nodi ei ymrwymiad i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Roedd y cynllun yn cynnwys datblygu templed cyfweliad Cynllun Gweithredu Ardal Gwasanaeth. Defnyddir y ddogfen i amlygu peryglon a chyfleoedd wrth gyflawni’r ddyletswydd adran 6 ledled meysydd gwasanaeth yr Awdurdod.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae enghreifftiau’n cynnwys amlygu dulliau rheoli tir amhriodol a chynyddu effeithlonrwydd adeiladau’r cyngor.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 5 a 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Enwyd y Môr-wennol Fach fel blaenoriaeth yng nghynllun corfforaethol 2017 – 2022, ynghyd â rhai rhywogaethau allweddol eraill, ac mae gwaith i’w diogelu yn cael ei adrodd bob chwarter.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Awdurdod Lleol yn rheoli’r unig nythfa o’r Môr-wennol Fach yng Nghymru, ac mae’n gweithio gyda gwirfoddolwyr o Grŵp y Môr-wennol Fach Gogledd Cymru (sy’n cynnwys trigolion lleol) er mwyn gwarchod y safle, rheoli a denu ymwelwyr, cwblhau gwaith ymchwil gwyddonol, a chofnodi data ar gyfer prosiect Bywyd+ yr UE i ddiogelu’r rhywogaeth yn y DU. Trwy’r dull rheoli hwn, roedd bron i draean o’r holl fôr-wenoliaid bach a fagwyd yn llwyddiannus yn y DU eleni wedi’u magu ar dwyni Gronant.

Llwyddodd hyn i godi ymwybyddiaeth o fioamrywiaeth ac ennyn diddordeb y cyhoedd yn ardal yr Awdurdod Lleol. Creodd yr Awdurdod nifer o ffilmiau byr am y prosiect i gynorthwyo’r broses hon.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 3, 5 a 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Cymuned Tonyrefail a’r Cylch

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Wrth fynd ati i dorri’r glaswellt, mae’r glaswellt yn cael ei gasglu a’i symud er mwyn sicrhau nad yw’n cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth trwy atal priddoedd rhag meithrin gormod o faethynnau a mygu planhigion.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Nodwyd bod bioamrywiaeth yn flaenoriaeth gorfforaethol yng Nghynllun Corfforaethol 2017 - 2022 y Cyngor er mwyn codi ymwybyddiaeth o’i phwysigrwydd.

Yn sgil y pwyslais ar fioamrywiaeth yn y cynllun, penodwyd swyddog bioamrywiaeth llawn amser, ac ariannwyd cytundeb lefel gwasanaeth gyda Cofnod, y ganolfan cofnodion amgylcheddol lleol, gan sicrhau bod gan yr Awdurdod fynediad at ddata ar fywyd gwyllt at ddibenion cynllunio a gwaith prosiect. O ganlyniad, mae materion bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn ystod cyfnod cynnar unrhyw brosiect bellach, gan gynnwys adnewyddu safleoedd a llwybrau teithio llesol arfaethedig.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r aelod o staff llawn amser newydd wedi cynyddu’r gallu i gyflawni’r ddyletswydd adran 6 a chyrraedd targedau’r cynllun corfforaethol. Roedd yn bosibl defnyddio amser staff fel arian cyfatebol ar gyfer rhai ceisiadau diweddar am gyllid grant.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 5 a 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Cymuned Goetre Fawr

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Sefydlu pwyllgor cynllunio newydd sy’n ystyried effaith amgylcheddol ceisiadau.

Cyn haf 2019 roedd cyfarfodydd llawn y cyngor yn ystyried pob cais cynllunio. Oherwydd cyfyngiadau amser yn y cyfarfodydd hyn, roedd yn amhosibl ystyried effaith amgylcheddol ehangach unrhyw geisiadau. Felly, sefydlwyd pwyllgor cynllunio newydd sydd wedi hwyluso archwiliad manylach o gynigion cynllunio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r materion sydd wedi’u hamlygu gan y Pwyllgor yn cynnwys:

Atal tynnu gwrychoedd a choed (ac unrhyw ddifrod na ellir ei osgoi gan gyfarpar adeiladu)

Effaith gwaith datblygu ar gyrsiau dŵr

Llygredd posibl sy’n deillio o garthffosiaeth neu ddŵr ffo gwenwynig arall

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Defnyddio dulliau amgen o reoli chwyn. Cyngor Sir Ddinbych oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i brynu Foamstream M600 sy’n defnyddio cymysgedd ewyn organig a dŵr poeth i ladd chwyn. Nid yw’n wenwynig, ac mae modd defnyddio’r dull hwn ar safleoedd sensitif ac wrth ymyl dŵr, gan leihau effeithiau posibl ar bobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Credir bod y dechnoleg hon yn ddiogel mewn amgylcheddau sensitif fel ardaloedd wrth ymyl cyrsiau dŵr. Hefyd, mae’n gost-effeithiol (gan ei bod yn lleihau’r nifer o weithiau y mae angen rheoli chwyn bob blwyddyn). Mae’r defnydd o ddulliau newydd yn helpu i godi ymwybyddiaeth ac ennyn diddordeb y cyhoedd yn ardal yr Awdurdod Lleol mewn bioamrywiaeth a materion cysylltiedig.

Mae costau’n cael eu hysgwyddo wrth brynu cyfarpar newydd, ond mae’r gost o ddefnyddio’r dull hwn yn debyg i gost dulliau eraill.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 2, 3 a 4


Awdurdod Lleol

Dŵr Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu Prosiect Cymru Gyfan PestSmart y Cwmni sy’n annog pobl i ystyried dulliau doethach o reoli chwyn, plâu ac afiechydon nad ydynt yn effeithio ar bobl, dŵr neu fywyd gwyllt.

Gwybodaeth Ychwanegol

Un fenter yw Cynllun Gwaredu Plaladdwyr 2020. Mae hwn yn gynllun gwaredu di-dâl a chyfrinachol ar gyfer ffermwyr, tyfwyr, ciperiaid, coedwigwyr a rheolwyr tir i waredu unrhyw blaladdwyr a chwynladdwyr sydd wedi darfod neu na ellir eu trwyddedu sy’n anodd neu’n ddrud eu gwaredu.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 4 a 6


Awdurdod Lleol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae CNC wedi integreiddio’r camau y mae’n bwriadu eu cymryd i gydymffurfio â’r ddyletswydd adran 6 yn ei Gynllun Corfforaethol (2017-22). Hwyluswyd hyn trwy lunio Natur Hanfodol sy’n datgan blaenoriaethau, cyfeiriad a dulliau gweithio’r sefydliad er mwyn helpu i lywio, blaenoriaethu a rhoi bioamrywiaeth ar waith.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Natur Hanfodol yn nodi 6 maes blaenoriaeth, gan gynnwys Buddsoddi yng ngwybodaeth a sgiliau ein staff. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r arbenigedd hwn i gefnogi tirfeddianwyr, arweinwyr busnes a grwpiau cymunedol. Er enghraifft, mae wedi rhentu SoDdGA glaswelltir ar dir isel a oedd mewn cyflwr gwael i grŵp o Sgowtiaid lleol. Ar ôl sefydlu cynllun rheoli gyda’r grŵp, mae’r safle yn cael ei reoli’n weithredol erbyn hyn, a darparwyd cyllid er mwyn clirio prysg, torri glaswelltir rhonc a rheoli Jac y Neidiwr. Mae’r cytundeb wedi arwain at fanteision bioamrywiaeth o safbwynt gwella cyflwr nodweddion y SoDdGA. Hefyd, mae wedi darparu safle i’r Sgowtiaid allu gwersylla, chwarae gemau awyr agored a chwblhau prosiectau amgylcheddol sy’n arwain at fanteision iechyd a llesiant ar gyfer grwpiau lleol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 3, 4 a 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Bydd yr Is-adran Gynllunio yn datblygu dull gweithredu cyson i sicrhau bod cadernid ecosystemau yn cael ei hyrwyddo fel rhan o’r system gynllunio ac fel rhan o’i gweithgareddau Cadwraeth, Blaengynllunio Mwynau a Rheoli Adeiladu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae ecolegydd cynllunio’r Cyngor yn asesu ceisiadau cynllunio er mwyn sicrhau bod pob caniatâd sy’n cael ei roi yn dangos bod y Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd adran 6. Er enghraifft, roedd Cynllun Lliniaru Ecolegol ar gyfer Datblygiadau Harbwr Porth Tywyn yn mynd i’r afael â nifer o faterion:

  • dinistrio nythfa ystlum lleiafo dan drwydded CNC
  • trawsleoli ymlusgiaid (neidr ddefaid a’r fadfall gyffredin)
  • gweithio y tu allan i’r tymor nythu adar
  • awndal oddi ar y safle oherwydd colli cynefin mosaig agored ar dir a oedd wedi’i ddatblygu’n flaenorol, ar ffurf cyfraniad ariannol at y gost o reoli Gwarchodfa Natur Leol Morfa Berwig.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 6


Awdurdod Lleol

Dŵr Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r cwmni wedi treialu rôl Hyrwyddwyr Bioamrywiaeth ar gyfer ei fusnes dŵr gwastraff.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gwirfoddolodd deuddeg o hyrwyddwyr bioamrywiaeth. Mae gwaith y gwirfoddolwyr wedi cynnwys plannu coed, bylbiau a hadau cynhenid; gwahanu tir sydd wedi’i neilltuo ar gyfer ‘tyfiant gwyllt’ ar safleoedd gweithredol a chreu cynefinoedd i annog adar, pryfed a mathau eraill o fywyd gwyllt i nythu a bridio. Mae rhai gwirfoddolwyr wedi gweithio gydag ysgolion lleol ac mae eraill wedi cynnwys sefydliadau fel yr RSPB, Bug Life a Coed Cadw.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 3 a 6


Awdurdod Lleol

Rhondda Cynon Taf

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Wrth fapio ei Gynllun Corfforaethol, nododd y Cyngor fod bioamrywiaeth yn un o’r meysydd sydd angen rhagor o bwyslais.

Gwybodaeth Ychwanegol

Arweiniodd hyn at gynnwys bioamrywiaeth yn yr Adroddiadau Perfformiad Corfforaethol blynyddol. Hefyd, cafodd cwestiwn ar fioamrywiaeth ei gynnwys yn yr Hunanwerthusiad Gwasanaeth a gwblhawyd gan bob Gwasanaeth Cyngor yn 2017, gan ddarparu gwaelodlin fel bod modd i’r Awdurdod bwyso a mesur ei berfformiad yn y blynyddoedd i ddod. Hefyd, bydd hyn yn cynorthwyo’r Cyngor i baratoi ei adroddiad cydymffurfiaeth adran 6.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 5 a 6


Awdurdod Lleol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi creu swydd barhaol, newydd trwy ei broses dylunio sefydliadol, sef uwch swyddog prosiect rhywogaethau estron goresgynnol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y gwaith hwn yn helpu i sicrhau bod prosesau rheoli ac effeithiau rhywogaethau estron goresgynnol yn cael eu hystyried ar bob lefel o’r sefydliad. Mae wedi codi proffil rhywogaethau estron goresgynnol a materion bioamrywiaeth yn fewnol a chynyddu gallu CNC i ddylanwadu ar sefydliadau o’r tu allan. Bydd y gwaith yn helpu i sicrhau bod CNC yn batrwm ym maes bioddiogelwch, yn gwella’r broses o gydlynu gweithredoedd ac yn blaenoriaethu adnoddau.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 3, 4 a 6


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Gâr

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Cyngor wedi gweithredu cynllun plannu ar gyfer cylchfan a fyddai’n gynaliadwy, yn rhad ac yn hawdd i’w gynnal a’i gadw.

Gwybodaeth Ychwanegol

Roedd y cynllun yn cynnwys plannu blodau peillio lluosflwydd yn lle rhai i’w plannu’n flynyddol, a arweiniodd at gostau llafur blynyddol is.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Yn 2019, bu’r Awdurdod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i adfer dau bwll ar gyfer llyffaint cefnfelyn, rhywogaethau adran 7¹. Hefyd, cyflwynwyd anifeiliaid pori i’r ardal o amgylch y pyllau er mwyn rheoli llystyfiant a chreu cynefin addas. Cyfrifwyd 10 o linynnau grifft yno yn 2019.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu:2 a 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Cymuned Pont-y-clun

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Cyngor wedi’i ddynodi’n un sy’n Caru Gwenyn. Mae’n rhan o gynllun Cymru gyfan sy’n annog cymunedau a sefydliadau i gymryd camau cadarnhaol dros bryfed peillio.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Cyngor yn defnyddio blodau peillio yn eu basgedi crog.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae rheolaeth CNC o Goedwig Clocaenog yn annog gwarchod y Wiwer Goch a’r glöyn byw Brith Perlog.

Mae Clocaenog yn un o dair ardal ganolbwynt yng Nghymru ar gyfer gwarchod wiwerod coch. Mae CNC yn rheoli’r goedwig, mewn partneriaeth ag eraill, er mwyn helpu i warchod gwiwerod coch yn barhaus, er enghraifft trwy adael clwstwr/celli o goed pyrwydden Norwy heb eu tocio a chynnal coridorau cyswllt. Mae prosiect atgyfnerthu’r boblogaeth wrthi’n cael ei gynnal trwy ryddhau gwiwerod coch sydd wedi’u magu mewn caethiwed.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae arferion rheoli coedwigoedd penodol hefyd o gymorth i gynnal poblogaeth sylweddol o loÿnnod byw Brith Perlog sy’n magu ac yn symud rhwng clystyrau bach o laswelltir gwlyb a chorsydd ar hyd a lled y goedwig sy’n cynnwys planhigion bwyd larfal (Fioled y Gors).

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 2 a 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn Awdurdod Lleol sy’n “Caru GwenynCynhaliodd y Swyddog Bioamrywiaeth gystadleuaeth cynllunio logo “Bee Friendly Denbighshire oedd ar agor i holl ysgolion y sir. Daeth pedair ysgol i’r brig o blith y cannoedd a wnaeth gystadlu, ac mae’r Awdurdod bellach yn cynnal sesiynau yn yr ysgolion hynny sy’n canolbwyntio ar greu ardaloedd “Caru Gwenyn” ar eu safleoedd a defnyddio’r blodau gwyllt a dyfwyd fel rhan o’u prosiect “Life on the Verge”.

Gwybodaeth Ychwanegol

Llwyddodd hyn i godi ymwybyddiaeth o’r dirywiad mewn pryfed peillio, eu hachrediad caru gwenyn, gan ennyn diddordeb cannoedd o blant ysgol fu’n rhan o’r prosiect.

Mae gan yr awdurdod logo Caru Gwenyn erbyn hyn, a gaiff ei ddefnyddio ar bob safle sy’n cael ei reoli ar gyfer pryfed peillio yn y sir. Mae’r logo yn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’r fenter hefyd.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 2 a 3


Awdurdod Lleol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae CNC wedi rhoi’r gorau i dorri’r glaswellt yn eu swyddfeydd ym Maes y Ffynnon gydol y gwanwyn a’r haf er mwyn annog bioamrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hyn wedi arwain at flodau a thegeirianau, gan gynnwys rhai mathau prin, yn tyfu o amgylch y swyddfa, sydd yn ei dro wedi denu llu o bryfed gan gynnwys rhywogaethau gwahanol o loÿnnod byw a gwenyn. Prin yw’r gwaith cynnal a chadw, ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar gostau trwy ddefnyddio llai o’r peiriant torri gwair. Mae’n cynnwys manteision llesiant hefyd trwy gynnig lle braf i staff weithio neu gael hoe fach.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Rheoli lleiniau ymyl ffordd er budd bywyd gwyllt. Ymhlith y prosiectau cyfredol mae diweddaru’r polisi torri lleiniau ymyl ffordd er mwyn lleihau pa mor aml mae’n rhaid torri.

Y polisi bellach yw un toriad y flwyddyn, gyda rhyw 1,820km (78%) o’r rhwydwaith lleiniau ymyl ffordd yn cael eu torri ar ôl 1 Awst er budd pryfed peillio ac er mwyn caniatáu i flodau gwyllt fwrw eu hadau.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hyn wedi creu rhwydwaith o leiniau ymyl ffordd cost-effeithiol, diogel sy’n llawn bioamrywiaeth. Arbedion costau posib trwy newid o ddau doriad i un y flwyddyn.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 2 a 3


Awdurdod Lleol

Cyngor Cymuned Pont-y-clun

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Cyngor yn cefnogi ac yn cydweithio’n agos â Grŵp Amgylchedd Pont-y-clun

Gwybodaeth Ychwanegol

Roedd gweithgareddau’r Grŵp yn cynnwys gweithio gyda Llais y Goedwig (sefydliad coetir cymunedol) er mwyn hybu iechyd ardaloedd o goetir ar dir prydles y Cyngor. Hefyd, maen nhw wedi cymryd camau i reoli Clymog Japan a Jac y Neidiwr ar hyd afon Elai ac wedi trefnu teithiau gydag ecolegydd y sir fel bod trigolion yn gallu deall a gwerthfawrogi amrywiaeth yr ardal yn well.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1,3 a 4


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Ddinbych

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Awdurdod Lleol wedi llofnodi cytundeb lefel gwasanaeth gyda Cofnod, y ganolfan cofnodion amgylcheddol lleol, sy’n cyflenwi cofnodion amgylcheddol sy’n cael eu defnyddio wrth asesu ceisiadau cynllunio.

Gan fod data o’r radd flaenaf bellach ar gael yn ogystal â chwiliadau cynllunio sy’n seiliedig ar gofnodion tacsonomi lleol (gan gynnwys rhywogaethau adran 7¹) wedi’u darparu gan y Ganolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol, mae hyn wedi annog prosesau symlach, cynnwys ystyriaethau bioamrywiaeth yn swyddogaethau’r Awdurdod Lleol ac arbed arian lle gallai achosion o fethu ystyried rhywogaethau gwarchodedig fod wedi arwain at erlyniad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Costau caffael, ond arbedion posib gan fod yr Awdurdod Lleol yn gallu cynnig cyngor gwell ar brosiectau mewnol, ac i drigolion sydd wrthi’n gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1, 2 a 5


Awdurdod Lleol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Dan eu cynllun dyletswyddau adran 6 mae’r Awdurdod yn gwella’r prosesau rheoli data fel bod GIS a phob data sy’n ymwneud â bioamrywiaeth, peryglon llifogydd, coridorau bywyd gwyllt ac ati, ar gael gyda’i gilydd yn hwylus i bob tîm.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y ffaith bod mwy a mwy o ddata ar gael yn ystod y cam cynllunio yn arwain at ddealltwriaeth well o effaith/manteision amgylcheddol prosiectau a gaiff effaith gadarnhaol ar benderfyniadau strategol a rhai bob dydd.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 5


Awdurdod Lleol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae gan yr Awdurdod raglen sy’n nodi’r safleoedd sy’n gymwys i fod yn Safleoedd o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur. Bydd pob safle yn cael ei asesu yn erbyn canllawiau cenedlaethol ac yn cael ei asesu o fewn 10 mlynedd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y data a gesglir yn cael ei ddefnyddio i ddiweddaru’r haen QGIS a bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth y De-ddwyrain.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 5


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Gâr

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Cafwyd cyfarfod rhwng y Swyddfa Bioamrywiaeth ac athrawon mewn ysgol gynradd leol i drafod sut i reoli tir yr ysgol er mwyn gwella bioamrywiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hyn wedi arwain at ardaloedd glaswelltir mwy amrywiol gyda mwy o rywogaethau yn gallu blodeuo am gyfnod hirach ar dir yr ysgol, gan greu mwy o gysyllteddau a chydnerthedd ecolegol a rhagor o gyfleoedd i addysgu am ecosystemau.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 1 a 3


Awdurdod Lleol

Llywodraeth Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r National Biodiversity Network (NBN) wedi cael contract gan Lywodraeth Cymru i greu porth Cymru-benodol o rywogaethau estron goresgynnol ar NBN Atlas Cymru ar-lein.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Porth yn cynnig cyfleuster unigryw i weld a chwilio am rywogaethau estron goresgynnol o ddiddordeb i Gymru.

Mae’r Porth yn cynnwys dros 300 o rywogaethau tiriogaethol, dŵr croyw a morol sydd o ddiddordeb penodol i Gymru ac yn caniatáu i ddefnyddwyr chwilio a lawrlwytho achosion a dosbarthiad o rywogaethau fesul rhestr, naill ai’n unigol neu ar y cyd. Mae’r data ar gael yn rhad ac am ddim at ddefnydd anfasnachol, ac mae croeso i randdeiliaid ddiweddaru’r rhestr drwy ap iRecord neu ap Canolfan Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 5


Awdurdod Lleol

Prifysgol Caerdydd

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Trwy ddatblygu’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, bydd tystiolaeth yn cael ei chynnwys mewn penderfyniadau bioamrywiaeth trwy nifer o gamau gweithredu - gan gynnwys rhannu data â Chanolfan Cofnodion Bioamrywiaeth y De-ddwyrain a defnyddio staff a myfyrwyr sydd wedi cael hyfforddiant ecolegol i fynd ati’n wirfoddol i gasglu tystiolaeth am batrymau bioamrywiaeth ledled ystâd y Brifysgol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 5


Awdurdod Lleol

Dŵr Cymru

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r cwmni wedi cyflwyno Cynllun Cyllido Bioamrywiaeth er mwyn helpu sefydliadau dielw i gyflwyno prosiectau sy’n ceisio sicrhau buddion bioamrywiaeth o fewn ffiniau gweithredol y cwmni lle mae rhyw fath o gysylltiad â gweithgareddau Dŵr Cymru. Mae’r cwmni hefyd yn cefnogi camau bioamrywiaeth ar raddfa fach gan gymunedau lleol, trwy’r Gronfa Gymunedol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cynlluniau sydd wedi cael cefnogaeth y cynllun hwn yn cynnwys mentrau sy’n annog cymunedau i gynnal byd natur yn eu cyrsiau dŵr lleol; plannu clychau’r gog cynhenid mewn rhannau o Gaerdydd; cyflwyno gwelliannau i wlyptiroedd sy’n cael eu gwarchod yn y Gorllewin er mwyn targedu rhywogaethau estron goresgynnol.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 5


Awdurdod Lleol

National Grid

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r cwmni wedi datblygu adnodd Natural Capital sy’n defnyddio data trydydd parti i ddarparu gwerthoedd ariannol dangosol sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ecosystem, fel dal a storio carbon, manteision o ran ansawdd aer lleol, rheoli llifogydd a hamdden.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae hyn wedi helpu’r cwmni i wneud penderfyniadau gwell, mwy cynaliadwy, a nodi cyfleoedd newydd i ddarparu mwy o’r gwasanaethau hyn trwy ddulliau rheoli rhagweithiol, cydweithio ac ymgysylltu â’r gymuned.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 5


Awdurdod Lleol

Cyngor Sir Gâr

Cam Gweithredu Bioamrywiaeth

Mae’r Awdurdod Lleol wedi paratoi canllawiau i Gynghorau Tref a Chymuned (Cynghorau) i’w helpu i gydymffurfio â’u dyletswyddau adran 6.

Bydd hyn yn helpu Cynghorau i gyflawni eu dyletswyddau adran 6 yn ogystal â thimau cynnal a chadw tiroedd awdurdod lleol, gyda’r bwriad o sicrhau y bydd mwy o dir yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth, ac y bydd costau o bosib yn lleihau yn sgil mwyo dorri a phlannu cynaliadwy.

Gwybodaeth Ychwanegol

Hefyd, maen nhw wedi cydweithio â’r Ardd Fotaneg Genedlaethol drwy brosiect Tyfu'r Dyfodol i gynnal gweithdy undydd gyda chyfraniadau gan rannau eraill o’r DU a mynychwyr o Sir Gâr ac awdurdodau cyfagos. Y nod oedd ysbrydoli a darparu enghreifftiau i Gynghorau Tref a Chymuned lleol ar reoli eu mannau gwyrdd er mwynhad y cyhoedd, bioamrywiaeth a phryfed peillio.

Amcan y Cynllun a gyflawnir gan y cam gweithredu: 3 a 6

(Nodyn 1: Mae Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhestru’r rhywogaethau a chynefinoedd o bwys mawr at ddibenion gwella bioamrywiaeth Cymru.)


Adran 6 Grŵp Tri Sefydliadau a Chamau Gweithredu fformat pdf


Yn ôl brif dudalen Adran 6

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt