Cyhoeddwyd y Cynllun Gweithredu Adfer Natur (NRAP) cenedlaethol am y tro cyntaf yn 2015, ac mae'n cynnwys Rhan I (Ein Strategaeth ar gyfer Natur) a Rhan II (Ein Cynllun Gweithredu). Mae hwn yn gynllun Cymru gyfan ar gyfer pawb sy'n ymwneud â gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru. Adnewyddwyd Rhan II ar gyfer 2020-21 yn dilyn mewnbwn gan ystod o randdeiliaid.
Mae nifer o amcanion wedi'u gosod er mwyn mynd i'r afael â'r materion sy'n sbarduno'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth, ac i'w helpu i ymadfer:
Erys y chwe amcan gwreiddiol, ynghyd â phum thema gweithredu sy'n deillio o'r amcanion.
Y pum thema yw:
Bydd Cynllun Adfer Natur Cymru yn amlinellu sut y bydd Cymru’n mynd i’r afael â Chynllun Strategol Bioamrywiaeth y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol a’r targedau bioamrywiaeth Aichi cysylltiedig yng Nghymru. Bydd y Cynllun Adfer Natur yn nodi camau gweithredu y gellir eu cyflawni yn y tymor byr ac yn pennu llwybr i gyflawni ymrwymiadau hirdymor y tu hwnt i 2020. Bydd camau gweithredu’r Cynllun yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, gan sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni amcanion ac uchelgais adfer natur yng Nghymru. Bydd cyfres o ddangosyddion yn cael eu datblygu hefyd i fesur cynnydd y Cynllun Adfer Natur yn erbyn yr amcanion. I gyd-fynd â’r cynllun, bydd y Fframwaith Adfer Natur yn nodi rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n gyfrifol am gyflawni camau gweithredu bioamrywiaeth yng Nghymru, a sut mae’r rhain wedi’u cysylltu â’i gilydd.
Grŵp Cyflawni'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur yw'r prif grŵp rhanddeiliaid ar gyfer yr NRAP ac mae iddo aelodaeth eang, o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, JNCC, Sefydliadau Anllywodraethol amgylcheddol, y sector ffermio a sefydliadau eraill o’r sector cyhoeddus a phreifat. Rôl y grŵp yw llywio a blaenoriaethu camau allweddol er mwyn cyflawni'r NRAP a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, gan fabwysiadu dull cydweithredol. Mae'r grŵp fel arfer yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn, a chynhelir y cyfarfod.
Mae cyfres o grwpiau yn arwain tasgau a blaenoriaethau penodol a bennir gan Grŵp Gweithredu NRAP. Ar hyn o bryd mae’r rhain yn cynnwys:
Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru LIFE yw'r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd ac ar gyfer unrhyw gynefin mawndir yng Nghymru.
Nod y prosiect arloesol ac uchelgeisiol 4 blynedd yw adfer 7 o'r enghreifftiau gorau o gyforgorsydd yng Nghymru. Bydd bron i 4 milltir sgwâr (dros 900 hectar) yn cael ei adfer i gyflwr gwell, mae hyn yn cynrychioli 50% o'r cynefin hwn yng Nghymru a 5% yn y DU.
Mae'r safleoedd wedi dioddef oherwydd rheolaeth wlypdir gwael yn y gorffennol ac mae hyn wedi achosi i blanhigion ymledol gymryd drosodd a stopio planhigion pwysig fel migwyn (mwsogl y gors) rhag ffynnu.
Mae planhigion fel migwyn yn helpu i gadw'r mawn yn gorslyd ac yn wlyb ac yn storio carbon, gan ein helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Bydd y prosiect hwn yn edrych ar ffyrdd arloesol newydd o weithio i wneud gwahaniaeth go iawn ac adfer y seven ACA cyforgors yng Nghymru.
Mae cyforgorsydd yn darparu nifer o fuddion i'r amgylchedd, bywyd gwyllt a phobl. Maent yn gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin, maent yn storio carbon o'r atmosffer, yn gallu storio a phuro dŵr ac maent hefyd yn rhoi mewnwelediad hynod ddiddorol i'n hanes amgylcheddol. Maent hefyd yn lleoedd gwych i bobl ymweld â natur a mwynhau ar ei gorau.
Y saith safle yn y prosiect yw:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y CNC
Caron © CNC
Bydd Prosiect Pedair Afon yn:
Bydd Prosiect Pedair Afon yn cael ei redeg gan CNC mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Ymddiriedolaeth Adfer Afonydd, Coleg Sir Gâr a Coed Cadw, gyda chefnogaeth ariannol ychwanegol gan Dŵr Cymru.
Partneriaid CNC ar brosiect Corsydd Crynedig yw’r Ymddiredolaeth Genedlaethol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Eryri ac Arfordir Sir Benfro.
Testun trwy garedigrwydd CNC
Llun © Sean McHugh
Prosiect cadwraeth pwysig yw Twyni Byw / Sands of LIFE sy’n rhedeg tan fis Rhagfyr 2022 a’i nod yw adfywio twyni tywod ledled Cymru. Bydd yn ail-greu symudiad naturiol yn y twyni ac yn adfywio cynefinoedd sy’n gartref i rai o’n bywyd gwyllt mwyaf prin. Tirweddau gwyllt eiconig yw twyni tywod. Maent yn gynefinoedd sy’n llawn bioamrywiaeth, lle mae carpedi o degeirianau yn dal i oroesi ochr yn ochr â gloÿnnod byw, adar ac amrywiaeth eang o bryfed sydd dan fygythiad.
Bydd y prosiect £4 miliwn, sy’n cael ei arwain gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn adfer mwy na 2400 hectar o dwyni tywod mewn pedair Ardal Cadwraeth Arbennig, ar 10 safle gwahanol yng Nghymru:
Ynys Môn ac Afon Menai- Tywyn Aberffraw; Tywyn Niwbwrch;Morfa Dinlle
Sir Feirionydd-Morfa Harlech;Morfa Dyffryn
Bae Caerfyrddin-Lacharn - Twyni Pendine;Arfordir Pen-bre;Twyni Whiteford;
Pen-y-Bont ar Ogwr-Cynffig;Merthyr Mawr
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y CNC
Merthyr Mawr © Sean McHugh
Prosiect gwerth £6.8 miliwn yw Prosiect Afon Dyfrdwy LIFE i drawsnewid afon Dyfrdwy a'i dalgylch drwy adfer yr afon a'i hamgylchoedd i'w cyflwr naturiol. Bydd hyn yn dod â sawl mantais i'r amgylchedd, yn benodol gwella niferoedd yr eogiaid, lampreiod a misglod perlog i'w helpu i fod yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Afon Dyfrdwy yw'r afon fwyaf yng Ngogledd Cymru ac mae ganddi ddalgylch o fwy na 1,800 km2. Mae'n un o'r afonydd mwyaf rheoleiddiedig yn Ewrop, ac ynghyd â Llyn Tegid, mae wedi'i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA).
Afon Tryweryn – un o lednentydd Afon Dyfrdwy © CNC
Mae partneriaethau lleol er lles byd natur yn gweithredu ym mhob ardal yng Nghymru ac maent yn darparu ffocws ar gyfer cyflawni amcanion y Cynllun Adfer Natur a Rheolaeth Gynaliadwy ar Gyfoeth Naturiol ar lefel leol, yn ogystal â chyfrannu at lawer o nodau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r astudiaethau achos hyn yn darparu cipolwg ar amrywiaeth y prosiectau a’r ystod o bartneriaid sy’n ymwneud â gweithredu’n lleol er lles byd natur yng Nghymru.
Dathlu Llwyddiant: Gweithredu ar y cyd dros fyd natur yng Nghymru
Mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Y Berwyn a Mynyddoedd De Clwyd ac ACA Migneint-Arenig-Dduallt yn cynnwys y ddwy ardal fwyaf o orgorsydd yng Nghymru.
Er bod ardaloedd mawr o orgorsydd i’w cael o hyd yng Nghymru, mae’r mwyafrif wedi dirywio oherwydd coedwigaeth, rhywogaethau estron (fel Rhododendron Rhododendron ponticum a Sbriws Sitca Picea sitchensis), gorbori, draenio, a llosgi bwriadol neu ddamweiniol. Yn ystod y 5 mlynedd y bu prosiect Gorgorsydd LIFE ar waith yng Nghymru, cafwyd gwelliannau sylweddol a pharhaol yng nghyflwr gorgorsydd mewn mannau hollbwysig oddi mewn i ddwy ACA yng Ngogledd Cymru.
I weld trafodion cyfarfodydd blaenorol Grŵp Llywio PBC, cliciwch ar Archif Cyfarfodydd y Grŵp Llywio.