Fel arfer, mae infertibratiaid yn anodd iawn eu gweld ond, er hynny, maen nhw’n amlwg iawn ym mioamrywiaeth Cymru, fel ym mhobman. Mae’n debyg fod yna, rhwng y tir a dŵr croyw yng Nghymru, fwy na 20,000 o wahanol rywogaethau o facro-infertibratiaid ac, fel enghraifft o'u helaethrwydd, amcangyfrir fod yna fwy o gorrynod mewn cae tri hectar nag sydd yna o ddefaid yng Nghymru. Mae infertibratiaid i’w canfod ym mhob cynefin posibl, o gilfachau mewn creigiau rhwng y llanw i sgri ar ben ein mynyddoedd, o nythod adar i fwsoglau'n llawn dŵr ar ymylon ein rhaeadrau. Mae’r amrywiaeth anghygoel hyn yn bosibl oherwydd bod y cynefinoedd arbenigol sydd gan lawer o rywogaethau wedi’u ffurfio o ganlyniad i addasu i amodau amgylcheddol penodol.
Maen nhw hefyd yn hynod o bwysig i iechyd ein hecosystemau. O fwydod sy’n awyru’n pridd, i'r gwenyn sy’n peillio ein cnydau, y crachod lludw sy'n malu gweddillion planhigion sy'n pydru, y cregyn gleision sy'n hidlo dyfroedd ein hafonydd a'r buchod coch cota sy'n bwyta cymylau o bla o bryfed gwyrdd, rydyn ni'n dibynnu ar infertibratiaid am ein hadnoddau sylfaenol.
Arachnida (corynod ayb.) tua 550 o rywogaethau
Crustacea (crachod lludw, llau dŵr ayb,) tua 250 o rywogaethau
Mollusca (malwod, gwlithod, ayb) tau 170 o rywogaethau
Coleoptera (chwilod) tua 3000 o rywogaethau
Diptera (pryfed) tua 4000 o rywogaethau
Hymenoptera [ac eithrio gwenyn meirch parasitig] (gwenyn, gwenyn meirch, llifbryfed) tua 750 o rywogaethau
Hemiptera (chwilod, sboncwyr dail, pryfed gwyrdd ayb.) tua 1200 o rywogaethau
Lepidoptera (ieir bach yr haf, gwyfynod) tua 1800 o rywogaethau
Trichoptera (pryfed gwellt delltog) tua 160 o rywogaethau
Mae infertibratiaid yn codi rhai problemau unigryw i gadwraeth oherwydd cyfuniad o ffactorau sydd, gyda’i gilydd, yn golygu bod newid yn debygol o niweidio llawer o’n rhywogaethau. Un o’r rhai mwyaf amlwg yw'r cylch bywyd blynyddol sy'n nodweddiadol o'r rhan fwyaf o ddigon o infertibratiaid ac sy'n golygu bod yn rhaid cael amodau addas i fridio ar yr adeg iawn ac yn y man iawn a hynny bob blwyddyn. Mae planhigion a fertebratiaid yn byw yn ddigon hir i allu cael sawl tro ar geisio atgynhyrchu ond nid yw hynny’n wir am y rhan fwyaf o infertebratiaid. Mae'r rhan fwyaf o infertibratiaid yn fychan o gorff sy’n eu galluogi i fyw mewn cynefinoedd micro – gall poblogaethau cyfan gael eu cynnal ar arwynebedd bychan iawn. Mae hyn yn eu gwneud yn arbennig o fregus os yw nodweddion bychan yn cael eu rheoli’n amhriodol. Yn aml, mae infertibratiaid yn hynod o sensitif i hinaswdd micro ac felly i strwythur llystyfiant. Maen nhw angen gwahanol amodau i ddatblygu ar wahanol gyfnodau o'u bywyd, a dyna pam fod presenoldeb cyffindiroedd a chyfosodiadau mosaig o gynefinoedd mor hynod o bwysig. Mae llawer o rywogaethau'n ei chael yn anodd iawn i wasgaru ac felly mae'n rhaid i reolaeth sicrhau fod y cynefin bridio o fewn cyrraedd coloneiddio bob amser. Mae rhai rhywogaethau, megis y rhai yn y cynefinoedd arloesi, wedi’i haddasu ar gyfer gwasgaru ac yn gallu coloneiddio mannau newydd gryn bellter o’u safleoedd geni ond bydd y rhain angen eu rheoli'n gyson (bob blwyddyn, fel arfer) i greu mannau newydd. Mae rhai eraill yn dangos deinameg metaboblogaeth ac angen darnau o gynefin addas wedi'i ddosbarthu ar raddfa tirwedd.
Cadwraeth Infertebratiaid yng Nghymru
Mae wyth o infertebratiaid an-forol wedi’u cynnwys yn Atodiad II y Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau y Gymuned Ewropeaidd i’w cael yng Nghymru, ac sy’n cael eu cynrychioli yma ar 22 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae deuddeg rhywogaeth yn cael Amddiffyniad Llawn o dan Atodlen 5 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac mae Adran 7 o Deddf yr Amgylchedd (Cymru) yn cynnwys 215 o rywogaethau o infertibratiaid. Mae 69 o’r rhywogaethau hynny wedi’u cofrestru fel ‘Ymchwil yn Unig’ i ddangos fod angen rhagor o wybodaeth i egluro’r graddfa a’r rheswm dros eu dirywiad. O’r gweddill, credir fod 33 (15%) wedi marw allan yng Nghymru ac mae nifer o rai eraill, gan gynnwys rhisglyn y morfa Lycia zonaria a’r pryf soldiwr Odontomyia hydroleon o dan fygythiad difrifol. Mae infertibratiaid yn cael eu cydnabod fel Nodweddion Cymwys ar 158 o SoDdGAau ac yn cael eu cynrychioli gan 88 o wahanol rywogaethau mewn 14 o Ddosbarthiadau.
Efallai bod ein rhywogaethau prinnaf o infertibratiaid yn cael eu hamddiffyn o dan ddeddfwriaeth y DU ac yn rhyngwladol ond mae cadwraeth y mwyafrif helaeth yn dibynnu ar sylweddoli'r amodau penodol o gynefin sy'n gallu cynnal cymanfa gyfoethog o rywogaethau. Mae gan rai o’r grwpiau mwyaf poblogaidd y fantais o gael eu cymdeithasau eu hunain sydd â phresenoldeb yng Nghymru. Mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru a Chymdeithas Gweision y Neidr Prydain yn bartneriaid gwerthfawr yn y dasg o sicrhau cadwraeth ein ffawna o infertebratiaid ac mae Ymddiriedolaeth Cadwraeth Infertibratiaid (Buglife) hefyd yn dod yn gynyddol weithgar. Yn anorfod, fodd bynnag, mae ehangder a chymhlethdod ffawna infertibratiaid Cymru’n golygu nad yw yr un fforwm yn gallu cynnig yr arbenigedd angenrheidiol. Ymdrechion arbeingwyr unigol sy'n gyfrifol am lawer o'n gwybodaeth, llawer o’r tu allan i Gymru.
Llun uchaf: Mae chwilen deigr y twyni Cicindela maritima yn bresyliwr anfynych ar gyn-dwyni Cymru a Lloegr, gyda nifer o safleoedd yng Nghymru – gan gynnwys Morfa Dyffryn a Whiteford – yn cynnal poblogaethau cryf.
Llun (h) Adrian Fowles
Llun gwaelod: Dengys y ddelwedd Odontomyia hydroleon (Pryf Soldiwr) – pryf prin nas ceir ond yn nwy safle yn y Deyrnas Unedig. Y sgydau dŵr tra fasig yn SoDdGA Banc y Mwldan yng Ngheredigion yw’r unig fan yng Nghymru lle ceir y rhywogaeth hon.
Delwedd CNC (MJ Hammett)