Mae Safleoedd Bywyd Gwyllt1 a Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC) yn ardaloedd o dir a gydnabyddir am eu pwysigrwydd i fywyd gwyllt, sydd y tu allan i amddiffyniad cyfreithiol system Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Ynghyd â safleoedd SSSI, y rhain yw craidd rhwydwaith pwysig o gynefinoedd sydd dan fygythiad fel coetiroedd hynafol, gweirgloddiau, gwlyptiroedd a glaswelltiroedd niwtral, sy’n darparu gofod i lawer o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion yng Nghymru sy’n dirywio. Yng Nghymru, mae 4700 a mwy o safleoedd yn cwmpasu ardal o tua 800 kilometr sgwâr (sy’n cyfateb i bron i 4% o Gymru). Defnyddir yr un meini prawf cadarn ar gyfer dethol safleoedd bywyd gwyllt a safleoedd SINC ac maen nhw’n rhan annatod o ddeddfwriaeth cynllunio genedlaethol a lleol. Yr uchelgais yw monitro cyflwr safleoedd a glustnodir yn safleoedd Bywyd Gwyllt a safleoedd SINC bob ychydig o flynyddoedd a gwneud argymhellion rheoli er mwyn cynorthwyo gydag arferion rheoli sy’n gwarchod a gwella gwerth y safleoedd hyn ar gyfer bywyd gwyllt.
1 pan fo gohebiaeth â thirfeddiannwr a chynllun rheoli a gytunwyd ar gyfer bywyd gwyllt, cyfeirir at y safleoedd fel safleoedd Bywyd Gwyllt. Ar y cyfan , nid oes gan safleoedd SINC gynllun rheoli a gytunwyd gan nad yw’r cysylltiad â’r tirfeddiannwr wedi cychwyn neu ei fod yn ei ddyddiau cynnar.
Roedd Prosiect Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol - De-ddwyrain Cymru yn Astudiaeth Beilot a gynhaliwyd gydol 2014 gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin (WTSWW) mewn cydweithrediad â sefydliadau cadwraeth eraill ac Awdurdodau Lleol. Cafodd ei ariannu gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy Gronfa Ecosystemau Gwydn.
Nod y prosiect oedd cychwyn ar broses o greu rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt ledled y De-ddwyrain drwy hyrwyddo Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol, ymgysylltu â thirfeddianwyr, cynnal arolygon, darparu deunyddiau addysgol, prisio gwaith rheoli cynefinoedd angenrheidiol a llunio strategaeth ar gyfer rheoli’r rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol yn y tymor hir.
Gall y prosiect restru’r prif lwyddiannau canlynol yn ystod 2014:
Gan ddilyn y gwaith hwn, aeth Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin ati i wneud rhagor o waith LWS yn ystod hanner cyntaf 2015. Roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ardaloedd o uwchdiroedd yng Nghymoedd Dwyreiniol y De. Paratowyd 6 Pecyn Cymorth arall i ategu’r 14 a gynhyrchwyd yn ystod 2014. At hynny, arolygwyd 20 yn rhagor o LWS a rhoddwyd cyngor i’r tirfeddianwyr ac ymgysylltwyd ymhellach â thirfeddianwyr er mwyn iddynt gyfrannu yn y dyfodol.
Mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent ac Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin yn parhau i wneud gwaith LWS. Ar hyn o bryd mae Ymddiriedolaeth Natur Gwent yn ail-arolygu 150 o safleoedd (50 y flwyddyn rhwng 2015-2017) a arolygwyd yn wreiddiol cyn 2008 er mwyn diweddaru’r rhestrau o rywogaethau, disgrifiadau, ffiniau a mapiau cynefinoedd yn ogystal â darparu rhagor o gyngor rheoli i berchnogion.
Ar hyn o bryd, mae Ymddiriedolaeth Natur y De a’r Gorllewin yn gwneud rhaglen o waith LWS 18 mis yn Rhondda Cynon Taf a fydd yn cynnwys y gwaith o ymgysylltu â thirfeddianwyr a hyrwyddo gwerth LWS a thechnegau rheoli sy’n arferion da. Cynhelir y prosiect mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Tân De Cymru, gyda’r nod o atal tannau mewn glaswelltiroedd drwy reoli safleoedd agored i niwed yn well.