Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.
Mae’r naw grŵp ecosystem wedi cynnal ymarfer ar gyfer mapio cynefinoedd â blaenoriaeth yng Nghymru. Mae’r mapiau a’r wybodaeth gysylltiedig yn cynnig ffordd i bartner-sefydliadau wneud y canlynol:
Blaenoriaethu camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar y cynefinoedd/rhywogaethau sydd wir angen eu rheoli ym mhob ardal ddaearyddol; helpu i nodi ardaloedd hollbwysig ar gyfer prosiectau mawr; cynnig ffocws ar gyfer tynnu cyllid allanol i lawr; caniatáu i grwpiau PBC ar lefel Cymru ganolbwyntio ar roi cymorth a chyngor penodol i CGBLl a phartner-sefydliadau parthed ardaloedd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae’r Grwpiau Arbenigol ar Ecosystemau a Rhywogaethau yn rhoi cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru, awdurdodau statudol ac eraill sydd â chyfrifoldebau rheoli sy’n effeithio ar fioamrywiaeth ac yn cryfhau’r dull gweithredu rhwng grwpiau ecosystemau ar lefel Cymru gyfan a phartneriaethau Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol / grwpiau bioamrywiaeth rhanbarthol.
Bydd y Cynllun Adfer Natur yn canolbwyntio ar gyflawni amcanion natur yng Nghymru. Bydd y grŵp Gweithredu Adfer Natur yn llywio ac yn gyrru’r gwaith ar lefel genedlaethol a lleol. Bydd cyfres o grwpiau gorchwyl a gorffen penodol yn cael eu sefydlu gan fanteisio ar arbenigedd Grwpiau Arbenigol Ecosystemau a Rhywogaethau Cymru ynghyd â gweithgorau eraill ac aelodaeth ehangach o Bartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.
Nod Rhaglen Anghenion Tystiolaeth ac Ymchwil Bioamrywiaeth ac Ecosystemau (BEERN) yw adnabod a mynd i’r afael ag anghenion tystiolaeth ac ymchwil bioamrywiaeth ac ecosystemau a fydd yn cyflenwi ac yn effeithio ar flaenoriaethau polisi a chyflenwi yng Nghymru, yn enwedig y rheini a amlinellir gan Gynllun Adfer Natur Cymru.
Mae’r rhaglen yn ymgysylltu â’r gymuned ymchwil yng Nghymru a’r tu hwnt, yn cyflenwi ymdriniaethau newydd ac yn integreiddio gyda dulliau cyfredol i sicrhau darpariaeth dda o dystiolaeth a chyngor i Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, y sector amgylcheddol ehangach ac eraill.
Crynodeb o brosiectau ymchwil y rhoddir grantiau iddynt 2019
Mae’r rhaglen yn datblygu, yn adfywio ac yn cryfhau gwaith Prosiect Bylchau Tystiolaeth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru. Diolchwn i bawb a gyfrannodd at y prosiect.
Mae grŵp llywio yn goruchwylio gweithredu’r rhaglen. Ymhlith ei aelodau y mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, Plantlife, RSPB, Cyswllt Amgylchedd Cymru a’r Ymddiriedolaeth Natur.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adnabod anghenion tystiolaeth blaenoriaeth yn ymwneud â pheth o’u gwaith bioamrywiaeth forol. Am wybodaeth bellach ewch i wefan CNC. Amlinella’r ddogfen isod y prosiectau y mae CNC yn eu hystyried yn flaenoriaeth uchel, a lle y maen nhw’n dymuno archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Mae’r Grŵp yn cynnwys cadeiryddion y naw grŵp ecosystem, grŵp arbenigol ar rywogaethau a’r grŵp rhywogaethau estron goresgynnol. Mae’r grŵp yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i gyfnewid profiadau, arferion gorau, trafod cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd, codi materion a chytuno ar gamau gweithredu ar gyfer grwpiau perthnasol.
Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru.
Mae Grŵp Arbenigwyr Rhywogaethau PBC yn gweithredu’n fan cyswllt unigol ar gyfer unrhyw ymholiadau gan y Grwpiau Ecosystem ynghylch rhywogaethau a/neu gynefinoedd rhywogaethau. Y mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r prif grwpiau dosbarthol (mamaliaid, adar, ymlusgiaid ac amffibiaid, pysgod, anifeiliaid di-asgwrn-cefn, planhigion fasgwlaidd, planhigion is), gan gynnwys arbenigwyr o asiantaethau statudol a chyrff anllywodraethol amgylcheddol. Dyma brif swyddogaethau’r grŵp:
Os hoffech chi gyflwyno bwlch tystiolaeth yn ymwneud â bioamrywiaeth neu ddull rheoli ar lefel yr ecosystem i’r grŵp hwn, cysylltwch â ni.
Os oes modd mynd i’r afael â’ch bwlch drwy weithgarwch ymchwil/prosiect ymchwil penodol, ewch i’r dudalen Prosiect Bylchau Tystiolaeth a chliciwch ar y ddolen ‘Ysgrifennu cwestiynau ar gyfer ymchwil wyddonol’
Defnyddiwch y dolenni isod i gael mynediad i hen bapurau a chofnodion Cyfarfodydd Grwp Llywio'r BCU. Os byddwch angen cofnodion a phapurau cyn cyfarfod Grŵp Llywio 12, defnyddiwch y ddolen Cysylltwch
Mae Partneriaeth BARS y DU (Defra, Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon, Scottish Natural Heritage, Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru a’r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur) wedi gwneud penderfyniad anodd i roi’r gorau i gefnogi BARS. Mae’r defnydd o’r system wedi bod yn gyfyngedig ac mae wedi methu cyflwyno darlun cynhwysfawr o weithredu er lles bioamrywiaeth ledled y DU.
Bydd BARS yn cau ddiwedd mis Tachwedd 2016.
Hyd nes bydd BARS yn cau, caiff defnyddwyr redeg adroddiadau i grynhoi eu camau gweithredu a’u prosiectau. Bydd yr holl ddata ar y system yn cael eu harchifo ddechrau mis Rhagfyr a bydd pob sefydliad yn cael cynnig lawrlwythiad wedi’i baratoi o’i ddata ei hun, gan gynnwys lleoliadau gofodol. Bydd gweinyddwyr sefydliadau’n derbyn manylion am sut i lawrlwytho eu harchifau ar ôl i’r system gau.
Am fwy o wybodaeth am y cau, gweler hysbysiad cau BARS a’r nodiadau gwybodaeth.
Rydym yn edrych ar fecanweithiau cofnodi eraill ac mae achosion ar gyfer eu defnyddio’n cael eu datblygu.
Cefnogir datblygiad BARS gan bartneriaeth y DU rhwng DEFRA, y Cydbwyllgor Cadwraeth Natur, Natural England, Scottish Natural Heritage, Asiantaeth yr Amgylchedd Gogledd Iwerddon ac Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru
Caiff data amgylcheddol ei gasglu yng Nghymru gan amrywiaeth eang o gyrff (yn cynnwys sefydliadau’r sector cyhoeddus, sefydliadau’r sector preifat a mudiadau’r trydydd sector), a hynny ar gyfer sawl pwrpas. Cafodd Fforwm Gwybodaeth Amgylcheddol Cymru y dasg o bwyso a mesur sut y caiff data ei gasglu a’r defnydd a wneir ohono, ac ar sail hyn lluniwyd y Siarter Rhannu Data sy’n nodi’r drefn yng Nghymru. Nod y Siarter yw sicrhau bod y data a gesglir yn cael ei rannu fel y gall gyfarwyddo a hwyluso pawb sydd â diddordeb yn amgylchedd Cymru. Mae’r Siarter yn ymgorffori’r nod o gasglu data unwaith, ond ei ddefnyddio sawl gwaith.
Dyma ail gam gwaith y grŵp a bydd yn adolygu ac yn datblygu’r broses ‘bioamrywiaeth’ i gyflawni’n well ar lawr gwlad, er mwyn galluogi Cymru i gyrraedd targedau bioamrywiaeth rhyngwladol, targedau bioamrywiaeth yr UE a thargedau bioamrywiaeth Cymru.