Mae Wythnos Natur Cymru
yn ddathliad o’n natur hudolus - o rywogaethau cyffredin a welwn bob dydd, fel
dant y llew a chacwn cynffon lwydfelen, i ffyngau hynod ddiddorol, barcudiaid
yn hedfan a gwiwerod coch acrobatig. Mae’n dathlu’r gerddi, y caeau a’r dolydd,
y coedwigoedd a’r goedwig law Geltaidd, y dŵr a’r ffosydd draenio, glan y môr
a’r twyni, a’r holl fannau hudolus lle mae byd natur yn ymgartrefu.
Ac yn bwysig, mae’n dathlu’r bobl, sefydliadau natur, cymunedau, ysgolion a grwpiau ffydd sy’n gwneud gwaith anhygoel er budd natur yn eu hardal.
Bydd rhywbeth at ddant pawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a’r rhai sy’n newydd i fyd natur, yn ogystal â’r rhai mwy profiadol yn y maes.
Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!
Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!