Mae mentro allan i’r awyr agored a dod i gysylltiad â natur yn hawdd. Gwirfoddoli mewn gwarchodfa natur, garddio er budd bywyd gwyllt, ymuno â grŵp natur lleol neu fynd am dro – mae’r rhain i gyd yn ffyrdd o ddod i gysylltiad â natur a’r awyr agored.Does dim rhaid i chi fod yn arbenigwr ar fioamrywiaeth i gymryd rhan... gall pob un ohonom roi help llaw i fyd natur! Gall pethau hawdd a syml wneud byd o wahaniaeth i fywyd gwyllt. Pe bai pob un ohonom yn gwneud un peth bach syml, byddem yn gwneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd. Byddwch yn hyrwyddwr bywyd gwyllt, ar yr aelwyd, yn y gweithle a’ch cymuned.
Mae Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yn falch o etifeddu llu o adnoddau gan raglen Buddsoddi yn Natur, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2015 a 2019, i gefnogi gweithredu er budd yr amgylchedd.