Mae dealltwriaeth o’r fframwaith deddfwriaethol i ddiogelu bywyd gwyllt a chynefinoedd y DU yn ddefnyddiol, yn enwedig yng nghyd-destun y broses gynllunio ac mae’n darparu cyd-destun ar gyfer mentrau cadwraeth bioamrywiaeth.
Mae’r newidiadau yn cwmpasu Cymru a Lloegr gan gynnwys eu dyfroedd glannau hyd at 12 milltir forol (nm). Mae’r newidiadau yn cael eu gwneud gan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019.
Mae’r Rheoliadau’n sicrhau bod rheoliadau domestig sy’n gweithredu:
yn parhau i weithredu’n effeithiol ac yn cynnal mesurau diogelu presennol ar ddiwedd y Cyfnod Pontio (1 Ionawr 2021).
Yn gryno, nid yw ACAau ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) yn y DU bellach yn rhan o rwydwaith ecolegol Natura 2000 yr UE. Mae Rheoliadau 2019 wedi creu rhwydwaith safleoedd cenedlaethol ar dir ac ar y môr, gan gynnwys ardaloedd morol y glannau a'r môr mawr yn y DU. Mae'r rhwydwaith safleoedd cenedlaethol yn cynnwys:
Mae unrhyw gyfeiriadau at Natura 2000 yn Rheoliadau 2017 ac mewn canllawiau bellach yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol newydd. Mae angen cynnal rhwydwaith cydlynol o safleoedd gwarchodedig gydag amcanion cadwraeth trosfwaol o hyd er mwyn:
Yn ogystal:
Roedd y rhan fwyaf o'r newidiadau hyn yn cynnwys trosglwyddo swyddogaethau o'r Comisiwn Ewropeaidd i'r awdurdodau priodol yng Nghymru a Lloegr.
Rhan 1 o’r Deddf yr Amgylchedd yn nodi dull Cymru o gynllunio a rheoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol gyda phwrpas cyffredinol sy’n gysylltiedig ag egwyddorion statudol rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a ddiffinnir yn y Deddf.
Adran 6 - Dyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau
Mae adran 6 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i geisio ‘cynnal a gwella bioamrywiaeth’, cyhyd ag y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol. Wrth wneud hynny, bydd rhaid hefyd i gyrff cyhoeddus geisio ‘hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau’.
Mae’r ddyletswydd hon yn disodli’r ddyletswydd yn Neddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (Deddf NERC 2006), ar awdurdodau cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau yng Nghymru.
Bydd gofyn i awdurdodau cyhoeddus adrodd ar y camau gweithredu a gymerant i wella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.
Mae'r canllawiau cyfredol ar ddyletswydd Adran 6 i'w gweld yma dolen
Adran 7 - Rhestrau bioamrywiaeth a dyletswydd i gymryd camau i gynnal a gwella bioamrywiaeth Mae’r adran hon yn disodli’r ddyletswydd yn adran 42 o Ddeddf NERC 2006. Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi, yn adolygu ac yn diwygio rhestrau o organeddau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru sydd, yn eu barn hwy, yn allweddol er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.
Hefyd, rhaid i Weinidogion Cymru cymryd pob cam rhesymol er mwyn cynnal a gwella’r organeddau byw a’r mathau o gynefinoedd a gynhwysir ar unrhyw restr a gyhoeddir o dan yr adran hon, a annog eraill i gymryd camau o’r fath.
Daeth Rhan 1 o’r Ddeddf, gan gynnwys Adrannau 6 a 7, i rym ar 21 Mai, 2016
Rhestr o’r organeddau byw o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
Rhestr o gynefinnoedd o’r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) a Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) yw’r sylfaen ar gyfer deddfwriaeth byd natur yng Nghymru.
Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn ogystal â Gweinidogion Cymru wedi newid rhannau o Reoliadau 2017 er mwyn iddynt weithredu’n effeithiol. Roedd a wnelo’r rhan helaeth o’r newidiadau hynny â throsglwyddo swyddogaethau o’r Comisiwn Ewropeaidd i’r awdurdodau priodol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r holl brosesau neu dermau eraill yn Rheoliadau 2017 yn aros yr un fath ac mae’r canllawiau presennol yn dal yn berthnasol.
Yn ôl Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd) mae’n drosedd (yn ddibynnol ar eithriadau) i ladd, niweidio neu gymryd unrhyw anifail a enwir yn Atodlen 5 yn fwriadol, ac mae’n gwahardd ymyrryd â llefydd sy’n cael eu defnyddio fel lloches neu le diogelwch, neu darfu’n fwriadol ar anifeiliaid sy’n byw yn y fath lefydd. Mae'r Ddeddf hefyd yn gwahardd rhai ffyrdd o ladd, niweidio neu gymryd anifeiliaid gwyllt.
Mae’r Confensiwn Gwlypdiroedd, o’r enw Confensiwn Ramsar, yn gytundeb rhynglywodraethol sy’n rhoi fframwaith ar gyfer gweithredu cenedlaethol a chydweithredu rhyngwladol i warchod a defnyddio gwlypdiroedd a’u hadnoddau’n ddoeth. Daeth y cytundeb i rym yn y DU ar 5 Mai 1976.
Ar hyd o bryd mae gan y DU 174 safle sydd wedi eu dynodi’n Wlypdiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (Safleoedd Ramsar) ac mae 10 o’r rheiny yng Nghymru.
Mae adran 6 o’r Ddeddf yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus i geisio ‘cynnal a gwella bioamrywiaeth’, cyhyd ag y bo hynny’n gyson ag arfer y swyddogaethau hynny’n briodol. Wrth wneud hynny, bydd rhaid hefyd i gyrff cyhoeddus geisio ‘hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau’.
Bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi, yn adolygu ac yn diwygio rhestrau o organeddau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru sydd, yn eu barn hwy, yn allweddol er mwyn cynnal a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru. Gelwir hon yn rhestr S7.
Mae Polisi Cynllunio Cymru yn gyfrifol am bolisi cynllunio defnydd tir yng Nghymru ac yn darparu fframwaith i sicrhau bod cynlluniau datblygu awdurdodau cynllunio lleol yn cael eu paratoi yn effeithiol. Ategir hyn gan 21 Nodyn Cyngor Technegol (TAN) ar bynciau penodol. Mae Nodyn Cyngor Technegol 5- Gwarchod Natur a Chynllunio yn allweddol bwysig o safbwynt gwarchod natur a bioamrywiaeth.
Mae Safleoedd Pwysig ar gyfer Gwarchod Natur yn elfen bwysig o systemau cynllunio llawer o awdurdodau lleol ac maent yn berthnasol i ardaloedd pwysig â chynefinoedd a rhywogaethau bioamrywiaeth â blaenoriaeth. Mae dynodiadau yn seiliedig ar feini prawf gwyddonol gwrthrychol sy’n cyd-fynd â chanllawiau Cymru gyfan. Fel arfer mae safleoedd a nodir yn cael eu dangos ar fap cynigion neu fap cyfyngiadau y cynllun datblygu lleol.
Mae pob math o droseddau yn erbyn bywyd gwyllt i’w cael, ond yn gyffredinol mae modd eu dosbarthu yn dri math gwahanol: troseddau’n ymwneud â rhywogaethau brodorol sydd mewn perygl neu sydd o bryder cadwraethol; creulondeb tuag at rywogaethau bywyd gwyllt, neu eu herlid; masnach anghyfreithlon mewn rhywogaethau mewn perygl. Mae’r Bartneriaeth Weithredu i Atal Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt (PAW) yn cynnig arweiniad ar gofnodi a chanfod troseddau bywyd gwyllt yn y DU. O safbwynt blaenoriaethau, ceir blaenoriaethau o ran troseddau bywyd gwyllt yn y DU a blaenoriaethau o ran troseddau bywyd gwyllt sy’n ymwneud yn benodol â Chymru.
Cynhaliwyd adolygiad o Droseddau Bywyd Gwyllt yng Nghymru a arweiniodd at nifer o argymhellion, gan gynnwys sefydlu Grŵp Gorfodi Troseddau yn erbyn Bywyd Gwyllt.
Ar gyfer unrhyw fater brys lle mae angen i’r heddlu ymateb ar unwaith, ffoniwch 999.
Ar gyfer troseddau eraill yn ymwneud â bywyd gwyllt, ffoniwch 101 a rhowch wybod i’r unigolyn ar ben arall y ffôn eich bod eisiau cofnodi trosedd yn erbyn bywyd gwyllt.
Erbyn hyn mae gweithgor gorfodi wedi’i sefydlu er mwyn sicrhau bod modd rhyngweithredu trwy lunio strategaeth yng Nghymru ar gyfer troseddau yn erbyn bywyd gwyllt; datblygu codau ymarfer a chytundebau rhannu data; bwrw ymlaen â blaenoriaethau Cymru a’r DU o ran troseddau yn erbyn bywyd gwyllt; a chynnal cynhadledd flynyddol ar droseddau yn erbyn bywyd gwyllt.