Mae bioddiogelwch yn cyfeirio at set o gamau a all atal cyflwyno a lledu organebau niweidiol fel plâu, pathogenau neu rywogaethau goresgynnol.
Bioddiogelwch y goedwig
Yng nghyd-destun coedwigaeth, ystyr 'blâu a chlefydau' yw plâu diasgwrn-cefn - pryfed, er enghraifft - sy'n niweidiol i goed, a chlefydau coed sy'n cael eu hachosi gan bathogenau, er enghraifft rhai bacteria a ffyngau.
Mae bioddiogelwch hefyd yn bwysig iawn ar gyfer rheoli rhywogaethau ymledol anfrodorol fel rhododendron, pidyn-y-gog Americanaidd, canclwm Japan a jac y neidiwr.
Pam mae bioddiogelwch yn bwysig
Mae'r bygythiad i'n coedwigoedd a'n coetiroedd nawr yn fwy nag erioed. Mae coed a phlanhigion ym Mhrydain nawr yn agored i lawer o blâu a chlefydau newydd. Y rheswm am hyn yw'r ffaith bod nwyddau'n cael eu cludo o gwmpas y byd yn fwy nag erioed o'r blaen. Gall heintiau olygu colledion economaidd i'r diwydiant coedwigaeth ac i ddiwydiannau cysylltiedig, er enghraifft twristiaeth.
Trosglwyddo damweiniol
Nid yw pob pla a chlefyd yn weladwy a gall pobl eu trosglwyddo'n ddamweiniol wrth symud rhwng coedwigoedd a choetiroedd gwahanol. Mae plâu fel arfer yn cael eu trosglwyddo mewn pridd neu mewn malurion planhigion ar esgidiau neu ar olwynion cerbydau a pheiriannau coedwigaeth. Gall cyfarpar sy'n cael ei ddefnyddio mewn gwaith coedwigaeth hefyd ledu clefydau.
Cyngor i ymwelwyr a gweithwyr coedwigaeth
Gall pawb sy'n byw neu'n gweithio yng nghefn gwlad Cymru, neu'n ymweld, helpu i arafu lledaeniad plâu a chlefydau trwy ddilyn mesurau bioddiogelwch sylfaenol
Mae yna gamau ymarferol y gall pawb eu cymryd i leihau'r risg o symud pryfed a phathogenau fel sborau ffyngau, sy'n lledu heintiau a heigiadau. Yn y bôn, mae hyn yn golygu peidio symud mwd, planhigion neu rannau penodol o blanhigion, fel dail, a allai guddio plâu.
I ymwelwyr â choedwigoedd, gall hyn fod mor syml â:
Ar gyfer arweiniad mwy manwl, sy'n arbennig o ddefnyddiol i bobl sy'n gweithio mewn coetiroedd, edrychwch ar yr adnoddau hyn: