Natur yn Caerdydd

Mae amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Mae llawer o’r rhain yn werthfawr a gwnaed dynodiadau statudol ac anstatudol i adlewyrchu hyn. Mae’r rhain yn cynnwys

2 o Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA),

1 Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA)

1 Safle Ramsar

17 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a

6 o Warchodfeydd Natur Lleol (GNL)

Mae safleoedd eraill yn anstatudol, am eu bod yn cael eu rheoleiddio gan bolisi yn hytrach na deddfwriaeth. Gelwir y rhain yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SoBCN) yng Nghaerdydd, ac mae eu manylion ar gael ar ein gwefan.

Yng Nghaerdydd, mae rhai o’r rhywogaethau mwyaf nodedig sy’n cael eu gwarchod yn cynnwys y dyfrgi sy’n bresennol ledled tair prif afon Caerdydd; 10 rhywogaeth o’r ystlum, rhai ohonynt yn bresennol ledled y ddinas; rhai poblogaethau o’r fadfall ddŵr gribog, a phoblogaeth helaeth o’r pathew, yn bennaf i’r gogledd a’r dwyrain o’r ddinas.

Cyswllt

Samantha Eaves - Cydlynydd Partneriaeth Natur Leol

Canolfan Gadwraeth Fferm y Fforest
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7JJ

Ffôn: 029 223 30840
Ebost: biodiversity.Team@caerdydd.gov.uk
Gwefan: outdoorcardiff.com/cy/bioamrywiaeth

Mae Caerdydd yn aelod gwerthfawr o Rwydwaith Partneriaeth Natur Lleol Cymru gyfan

Local Nature Partnerships CymruPartneriaeth Natur LeolCaerdydd

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt