Coetiroedd a Coedwigaeth

Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu gwerthoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol coedwigoedd

Mae ein coed a'n coetiroedd yng Nghymru yn rhoi llawer o fuddion i unigolion, cymunedau a diwydiannau mewn perthynas â chynaeafu adnoddau naturiol. Mae coed yn rhan bwysig o ecosystem iach drwy ddenu pryfed peillio hanfodol a chefnogi rheolaeth integredig dros blâu - gan olygu llai o arian ar wrteithiau drud sy'n niweidio'r amgylcheddol.

Mae coed yn gwella cyflwr y pridd drwy ei warchod rhag y gwynt, yn lleihau erydu oherwydd dŵr ac yn darparu draenio naturiol - mae 'mannau gwyrdd' integredig mewn ardaloedd trefol yn gweithredu fel amddiffynfeydd naturiol rhag llifogydd. Ymysg y buddion i ffermio y mae helpu i hybu cynnyrch cnydau, drwy arafu cyflymder y gwynt a gwella effeithlonrwydd cnydau o ran dŵr, a chynnig y cyfle i gynyddu cynhyrchiant drwy gynlluniau silvoarable a silvopastoral. Mae coed yn gwella llesiant ac yn darparu cyswllt hanfodol â byd natur.

Daw rhai o'r bygythiadau mwyaf i goed a choetiroedd hynafol ym Mhrydain o orddatblygu adnoddau naturiol (torri coed, clirio coed ar gyfer tir pori), plâu a chlefydau (e.e. clefyd coed Ynn) a newidiadau mewn patrymau tywydd (y newid yn yr hinsawdd).

  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau natur neu wirfoddoli i grŵp coetir. Mae Coed Cadw yn cynnig llawer o gyfleoedd gwirfoddoli
  • Ymgyrchu i warchod a diogelu coedwigoedd sydd dan fygythiad gyda Coed Cadw
  • Plannu coed - cofiwch y dylai rhywogaethau coed fod yn addas i'r amodau lleol a gallu goddef pwysau hinsoddol a phwysau eraill megis pryfed a chlefydau, drwy gydol y cyfnod tyfu
  • Dod yn Hyrwyddwr i'r Siarter Coed. Mae'r Siarter Coed, Coedwigoedd a Phobl yn nodi egwyddorion ar gyfer cymdeithas lle gall pobl a choed sefyll yn gryfach gyda'i gilydd. Lansiwyd y Siarter Coed gan Coed Cadw ar 6 Tachwedd 2017; 800 mlynedd ers Siarter y Fforest yn 1217

bluebells

Coed Cadw

Coed Cadw yw elusen fwyaf Prydain ar gyfer cadwraeth coetiroedd. Mae ganddi dri phrif nod:

  • Gwarchod coetiroedd - Achub 1059 o goetiroedd - Mae dros 1,000 o goedwigoedd hynafol anadnewyddadwy wedi'u bygwth dros y 10 mlynedd diwethaf. Gallwch ymgyrchu gyda Coed Cadw i ymuno ag eraill a rhoi llais i goedwigoedd a choed.
  • Adfer coetiroedd - Adfer 22,586 o hectarau o goetiroedd hynafol - Mae coedwigoedd hynafol yn bodoli ers canrifoedd - yn ddigon hir i ddatblygu ecosystemau cyfoethog, cymhleth ac anadnewyddadwy. O waith adfer ar ein tir ein hunain i ddarparu cyngor a chymorth i berchnogion tir preifat sydd â choetiroedd hynafol, rydym ar flaen y gad yn hyrwyddo adferiad coetiroedd hynafol ledled Prydain.
  • Creu coetiroedd - Plannu 41,497,408 o goed - Dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu plannu 64 miliwn o goed ac ni allwn wneud hynny heboch chi. Mae pob coeden ifanc yr ydym yn ei darparu yn dod o Brydain ac yn cael ei thyfu ym Mhrydain i leihau'r perygl o fewnforio a lledaenu plâu a chlefydon coed. Dewch i gael gwybod mwy.

Mae gan Coed Cadw filoedd o adnoddau i'ch helpu i ddeall mwy am ein coed cynhenid a'n coetiroedd hynafol, a syniadau i chi fynd yn nes at fyd natur, gan gynnwys cymorth i ddod o hyd i'ch coetir lleol.

Mae Coed Cadw angen cymorth i warchod, adfer a chreu coetiroedd. Gallwch wneud hyn fel rhan o fudiad, cymuned neu fel unigolyn drwy wneud y canlynol:

  • Plannu coed yn eich cymuned neu'ch ysgol - Os ydych yn ysgol neu'n grŵp cymunedol ym Mhrydain sydd am wneud gwahaniaeth yn eich amgylchedd lleol, gallech fod yn gymwys ar gyfer ein pecynnau coed. Diolch i gyllid gan ein partneriaid, mae ein pecynnau ar gael yn rhad ac am ddim i chi.
  • Dechrau cofnodi natur drwy Galendr Natur. Mae'r prosiect hwn ar waith ledled Prydain ac yn annog y cyhoedd i gofnodi arwyddion y tymhorau wrth iddynt newid e.e. blodyn cyntaf clychau'r gog, grifft broga cyntaf a mwyaren ddu aeddfed gyntaf. Mae gwyddonwyr yn defnyddio'r data i astudio effaith y newid yn yr hinsawdd.
  • Rhoi gwybod i'r Comisiwn Coedwigaeth os ydych yn gweld plâu a chlefydau coed gan ddefnyddio gwefan Tree Alert.
  • Gweithredu Pecynnau Adfer a dilyn camau ymarferol y gallwch eu cymryd wrth ddelio gyda phlâu a chlefydau coed.
  • Ychwanegu at yr Ancient Tree Inventory. Helpwch i warchod ein treftadaeth coed werthfawr. Cofnodwch goed hynafol a hen a'u rhoi ar y map. Mae 160,000 o goed eisoes wedi'u rhestru ond mae miloedd mwy i'w hychwanegu. Mae angen eich cymorth chi arnom i ddod o hyd iddyn nhw.
  • Annog eich busnes i ddod yn bartner Woodland Carbon.

Llais y Goedwig

Yng Nghymru ceir coetiroedd cymunedol o sawl math, sawl maint ac mewn lleoliadau amrywiol. Rhwydwaith yw Llais y Goedwig ac ynddo 300 o aelodau ar lawr gwlad. Llais y Goedwig yw llais balch coetiroedd cymunedol yng Nghymru. Trwy ddigwyddiadau rhwydweithio lleol a chenedlaethol, mae Llais y Goedwig yn helpu i ddod â grwpiau coetiroedd cymunedol at ei gilydd i rannu eu profiad; mae Ymgynulliad Blynyddol Llais y Goedwig yn achlysur ardderchog gyda chyfleoedd i rwydweithio a rhannu arfer da ag unigolion a mudiadau sy'n mynd i'r afael â materion a chyfleoedd tebyg.

Ers 2008, mae Llais y Goedwig wedi cynrychioli buddiannau grwpiau coetiroedd cymunedol mewn trafodaethau ynglŷn â pholisïau yng Nghymru ac wedi cyhoeddi Maniffesto ar gyfer Coedwigoedd Cymru. Mae Llais y Goedwig wrthi'n cynnal ymchwil i feysydd hanfodol coedwigaeth yng Nghymru - gan gynnwys astudio cyflenwad tanwydd coed a'r potensial i gynhyrchion o goedwigoedd nad ydynt yn gynhyrchion pren gefnogi mentrau cymdeithasol.

llais y goedwig

Dechrau arni gyda Choetir Cymunedol

Yn union fel nad oes yna un math sengl o grŵp coetir cymunedol yng Nghymru, nid oes yna broses benodol i greu un. Mae pob grŵp coetir yn dechrau mewn ffordd unigryw - gall fod o gymorth mawr i weld sut aeth eraill ati, a chael cyngor yn seiliedig ar brofiadau go iawn:

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru adran benodol i goedwigaeth er mwyn darparu gwybodaeth ac annog a chefnogi'r rheini sydd â diddordeb mewn gwella coetiroedd Cymru:

Tir Coed

Tir Coed

Elusen yn y Canolbarth yw Tir Coed sy'n 'gwella bywydau drwy goetiroedd'. Mae'n gweithredu mewn coetiroedd sy'n berchen i Cyfoeth Naturiol Cymru a choetiroedd cymunedol â mynediad i'r cyhoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon. Yn aml ystyrir y coetiroedd hyn yn rhai economaidd anhyfyw ac nid oes neb wedi gofalu amdanynt ers blynyddoedd. Mae Tir Coed yn manteisio ar y coetiroedd hyn ar gyfer datblygu gwledig ac arallgyfeirio gwledig gan ddatgloi potensial y coetir i ddarparu:

  • Cyfleusterau cymunedol
  • Gweithgareddau addysgol ac iachus
  • Cyfleoedd gwaith
  • Gwella amgylchedd y coetir er budd bywyd gwyllt a chenedlaethau'r dyfodol

Mae Tir Coed yn gweithio mewn ardaloedd gwledig, economaidd ddifreintiedig sydd â mynediad cyfyngedig at wasanaethau a chyfleoedd ond ardaloedd sy'n aml yn gyfoeth o goetiroedd ac felly mae model Tir Coed yn creu cyfleoedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol newydd.

Prosiectau i'ch ysbrydoli

Coetir Cymunedol Blaen Bran

Mae Blaen Bran yn gwarchod ac yn diogelu 100 erw o goetir uwchben Cwmbrân Uchaf er defnydd y gymuned. Mae pwysigrwydd naturiol a hanesyddol i'r ardal sydd ar lethrau Mynydd Maen gyda golygfeydd ysblennydd dros Gwmbrân a draw at yr Hafren a chronfa ddŵr Llandegfedd gan roi ymdeimlad o ryddid, heddwch a thawelwch a chynnig dihangfa o'r dref.

Coed Gwern

Coed Gwern

Mae gan Ganolfan y Dechnoleg Amgen, ger Machynlleth, oddeutu 20 erw o goetiroedd o dan ei rheolaeth. Mae'r rhain wedi'u rhannu rhwng y prif safle a'r chwarel, a'r coetir ar draws y ffordd, Coed Gwern. Mae'r coetiroedd yn wahanol iawn o ran oedran a'u hanes diweddar. Mae'r Ganolfan yn rheoli'r coetiroedd i gyflawni 3 phrif nod: gwella bioamrywiaeth, cynaeafu cynhyrchion defnyddiol a rhannu gwybodaeth.

Coed Lleol - Coed Actif Cymru

Coed Lleol yw cangen y Gymdeithas Coedwigoedd Bychain yng Nghymru. Mae gan y Gymdeithas brofiad helaeth o reoli prosiectau Coedwigaeth Gymdeithasol, yn ogystal â phrosiectau i hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o reoli coedwigoedd bychain er budd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd. Ymysg prosiectau blaenorol Coed Lleol y mae prosiect Coedwig Gymunedol i sefydlu'r rhwydwaith cymorth, sydd bellach yn annibynnol, ar gyfer grwpiau coedwigoedd cymunedol, Llais Y Goedwig. Nod Coed Lleol yw 'ailgysylltu pobl a choedwigoedd yng Nghymru' ac mae wrthi'n cynnal y prosiect Coed Actif Cymru mewn 9 lleoliad ledled Cymru; Môn, Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Wrecsam, Sir y Fflint, Aberystwyth, Gwynedd, Treherbert a Merthyr. Mae Coed Actif Cymru yn brosiect iechyd a llesiant arloesol i helpu pobl i gadw'n iach drwy ffordd y goedwig, gan gefnogi grwpiau gweithgareddau gan gynnwys gwaith rheoli coedwigoedd, byw yn y gwyllt, campfa'r goedwig, crefftau ac addysg natur ar y cyd â mudiadau iechyd ac amgylcheddol (megis Mind, Macmillan ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol) yn ogystal â hyfforddiant a chymorth, gan gynnwys sefydlu cwrs OCN mewn Coedwigaeth Gymdeithasol sydd ar gael mewn sawl canolfan yng Nghymru a Lloegr.

Coed Marros Co-operative

Dechreuodd Coed Marros Co‐op pan ddaeth criw o bump at ei gilydd i brynu a datblygu Coed Marros ar y cyd fel coetir cymunedol. Mae Coed Marros Co‐op wedi canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu Coetir Cymunedol gan ddefnyddio egwyddorion Permaddiwylliant, bywoliaethau ar eu cyfer eu hunain a chysylltiad cryf a chefnogol â'r gymuned leol.

Gwarchodfa Natur Coed Phoenix

Cyn blanhigfa Pefrwydd yw Coed Phoenix yr ydym yn ei thrawsnewid yn frith o gynefinoedd bywyd gwyllt. Yn raddol mae'r coetir yn cael ei adfer i goetir sy'n un cynhenid yn bennaf. Y Dderwen Ddigoes, y Fedwen, yr Helygen a'r Gerddinen fydd hyn gan mwyaf.

Blaen Bran

Cadwch Gymru'n Daclus - Y Goedwig Hir

Prosiect i ennyn diddordeb y gymuned yw'r Goedwig Hir, sy'n cael ei rhedeg gan Cadwch Gymru'n Daclus ar y cyd â Coed Cadw a Phrifysgol De Cymru. Mae'n cael ei ariannu gan Gronfa Natur Llywodraeth Cymru. Mae'r Goedwig Hir yn annog grwpiau, tirfeddianwyr, ysgolion a busnesau lleol i chwarae mwy o ran ac i ddod yn fwy cyfarwydd â rheoli gwrychoedd, coetiroedd a choed hynafol drwy arddangosiadau ymarferol, arolygon o wrychoedd a hyfforddiant arbenigol.

Coedwig Gymunedol Long Wood

Menter gymdeithasol yn y Gorllewin yw Coedwig Gymunedol Long Wood. Fe'i sefydlwyd yn 2003 ac mae'n cael ei reoli ar gyfer gwerthiannau pren ac fel cyfleuster hamdden ar sail ddielw gan sicrhau bod y coetir yn cael ei ddatblygu mewn ffordd gynaliadwy sy'n canolbwyntio ar y gymuned er mwyn darparu ased masnachol, addysgol a hamdden sy'n perthyn i'r gymuned.

Rhagor o Grwpiau Coetiroedd a Chymorth

Confor - coedwigaeth planhigfeydd

Continuous Cover Forestry Group

MWMAC - hyfforddiant proffesiynol ymarferol

Royal Forestry Society

Timber Research and Developement Association

Woodland Heritage

www.smallwoods.org.uk

www.woodlands.co.uk - asiant ystadau coetiroedd mwyaf blaenllaw Prydain - blog gwych

www.woodlandskillscentre.co.uk

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt