Mae yna sawl ffordd o hyrwyddo a hybu bywyd gwyllt a gall mudiadau niferus rhoi'r holl gyngor angenrheidiol i chi. Un o'r ffyrdd gorau o helpu bywyd gwyllt yw darparu cynefin lle gall anifeiliaid gael lloches a chwilota am fwyd.
Ar y dudalen hon fe welwch rai o'n hoff fudiadau a all eich helpu i wneud rhywle yn fwy addas i fywyd gwyllt yn gyffredinol, ac os ydych am hybu un rhywogaeth yn arbennig mae yna ganllawiau mwy penodol ar gael yn ein hadrannau:
Amffibiaid, Ymlusgiaid a bywyd gwyllt arall mewn pwll dŵr - Adar - Pryfed ac infertebratau eraill - Mamaliaid
Garddio er budd bywyd gwyllt drwy ddarparu lloches a bwyd; gadael rhai llefydd yn wyllt, plannu gwrychoedd a phlanhigion sy'n denu pryfed peillio, a'i gwneud yn bosib i fywyd gwyllt fynd a dod o'ch gardd
Ymuno â menter genedlaethol (megis yr Ymddiriedolaeth Natur, RSPB neu Coed Cadw) neu brosiect lleol i godi ymwybyddiaeth, a chefnogi'ch parciau lleol
Cyflwyno plant i fyd natur o oed cynnar
Prynu'n foesegol; lleihau llygredd drwy siopa'n lleol (yn enwedig o ffermydd cynaliadwy), edrych am gyflenwyr sy'n cynhyrchu mewn modd amgylcheddol gynaliadwy ac yn cefnogi eu gweithwyr
Rhoi llais i fyd natur yn eich ardal drwy ddeisebu'ch cyngor neu'ch AC/AS ynglŷn â materion yn ymwneud â bywyd gwyllt
Menter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a'r Ymddiriedolaethau Natur yw Wild About Gardens. Maent yn cynnwys adeiladu gwestai i greaduriaid bach, creu pentyrrau compost neu gaffi neithdar yn ogystal â chamau penodol i achub 6 rhywogaeth allweddol yng Nghymru megis y fronfraith a draenogod. Mae canllaw Give Nature A Home gan yr RSPB yn ffordd wych arall o ddechrau arni i ddarparu llefydd diogel ac atyniadol er mwyn i fywyd gwyllt ffynnu.
Ceisiwch ddarparu cynifer o gynefinoedd â phosib, ond gan osgoi gwneud gormod a chanolbwyntio yn hytrach ar beth ellir ei wneud yn dda yn y lle sydd gennych! Mae lawnt, coed a llwyni, blodau a dŵr yn gynefinoedd allweddol. Mae gardd gors, bondo, pentwr o goed a phyllau yn enghreifftiau o gynefinoedd mwy arbenigol. Ond gall natur ffynnu hefyd mewn llefydd na fyddech efallai i ddechrau yn eu hystyried yn gartref i fywyd gwyllt; gan gynnwys gerddi cafn, cynhwysyddion clyfar, toeau gwyrdd a hyd yn oed claddfeydd a mynwentydd!
Dyma rai o'n hoff ganllawiau, syniadau, partneriaethau a chyfarpar i droi unrhyw le llwyd yn wyrdd er budd bywyd gwyllt: