Cyflwyniad

Mae glöynnod a gwyfynod yn rhan o is-ddosbarth o bryfed a elwir yn Lepidoptera. Ar y cyfan mae glöynnod yn hedfan yn ystod y dydd a gwyfynod yn hedfan yn ystod y nos ac mae hyn, yn y gorffennol, wedi arwain at eu hastudio ar wahân. Fodd bynnag, yng Nghymru ceir cymaint o wyfynod yn hedfan yn ystod y dydd ag a geir o löynnod. Ymhellach, mae gwyfynod wedi’u hollti’n ddau grŵp, sef y macro-wyfynod mwy a’r micro-wyfynod llai; ond unwaith eto, nid yw hyn bob amser yn ddefnyddiol gan fod rhai gwyfynod a elwir yn ficro-wyfynod – er enghraifft y Perlog (Pleuroptya ruralis) – yn fwy na rhai macro-wyfynod.

Rôl Glöynnod a Gwyfynod yn Swyddogaethau’r Ecosystem

Mae glöynnod a gwyfynod yn hollbwysig yn swyddogaethau’r ecosystem. Mae nifer o bryfed eraill, ynghyd ag amffibiaid, adar ac ystlumod, yn dibynnu arnynt fel ffynhonnell fwyd, yn arbennig y lindys. Ceir mwy a mwy o dystiolaeth eu bod yn bryfed peillio o bwys, yn ogystal â’r ffaith fod y lindys yn llysysyddion pwysig. Mae eu cylch bywyd blynyddol, y ffaith eu bod yn weddol hawdd eu hadnabod a’r holl waith ymchwil sydd wedi’i wneud arnynt yn gwneud Lepidoptera yn hollbwysig i’n dealltwriaeth o newid amgylcheddol. Mae eu helaethrwydd a’r newid o safbwynt casgliadau’r rhywogaethau wedi dangos yr effaith a gaiff newid a darnio cynefinoedd, ac mae newidiadau yn eu dosbarthiad wedi helpu i ddarogan effeithiau newid hinsawdd.

Glöynnod a Gwyfynod yng Nghymru

Yng Nghymru, ceir 42 o wahanol fathau o löynnod a mwy na 1700 o wahanol fathau o wyfynod, yn ogystal â nifer o rywogaethau ymfudol fel y Fantell Dramor (Vanessa cardui) gyfarwydd neu’r Gwalch-wyfyn Hofrol (Macroglossum stellatarum). Fodd bynnag, gwelwyd dirywiad sylweddol yn helaethrwydd a dosbarthiad mwy na dwy ran o dair o’n glöynnod a’n gwyfynod, gyda rhai rhywogaethau i’w cael ar ambell safle yn unig yng Nghymru bellach, er enghraifft y Fritheg Frown (Argynnis adippe). Mae rhestr Adran 7 o Rywogaethau Pwysig Iawn yng Nghymru yn cynnwys 14 o löynnod a 35 o wyfynod y mae angen cymryd camau i’w gwarchod yng Nghymru. Mae’n debyg y bydd naw rhywogaeth o wyfyn yn diflannu o Gymru.

Orange tip - Alun Williams

Orange tip - Alun Williams

Pearl bordered fritillary - Alun Williams

Pearl bordered fritillary - Alun Williams

Meadow brown - Alun Williams

Meadow brown - Alun Williams

Gweithredu er budd Glöynnod a Gwyfynod

Y canolbwynt yw achub y rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf, dysgu mwy am y mathau y gwyddom leiaf amdanynt a chofnodi i ba raddau y mae rhywogaethau’n llwyddo fel dangosyddion ar gyfer iechyd yr amgylchedd. Mae Gwarchod Glöynnod Byw Cymru yn gweithio gyda nifer o bartneriaid er mwyn rheoli safleoedd hollbwysig er budd glöynnod a gwyfynod. Er enghraifft, caiff y gwaith i achub y deg safle sydd ar ôl yng Nghymru ar gyfer y Fritheg Berlog (Boloria euphrosyne) ei rannu gydag Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Caiff y dasg o gofnodi glöynnod a gwyfynod ei chydlynu gan gofnodwyr sirol, ac mae’n helpu i greu darlun o’r newidiadau yn nosbarthiad y rhywogaethau. Mae rhaglenni, fel Cynllun Monitro Glöynnod y DU, yn ein helpu i asesu’r newidiadau mewn helaethrwydd dros amser a chreu Mynegai Glöynnod ar gyfer Cymru.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt