Nid yw’r grŵp yn weithredol bellach ac nid yw gwybodaeth ar y dudalen hon yn gyfoes. Fe’i dangosir at ddibenion cyfeirio yn unig.
Dyma'r dudalen wybodaeth ar gyfer Grŵp Ecosystem Gweundir a Glaswelltir yr Iseldir PBC. Mae gweithgareddau Grŵp Ecosystemau Gweundir a Glaswelltir yr Iseldir yn ymwneud ag Adran 7 cynefinoedd â blaenoriaethau yng Nghymru, canlynol: Glaswelltir asidaidd sych yr iseldir; Glaswelltir calchaidd yr iseldir; Gweirgloddiau'r iseldir; Porfeydd brwyn a glaswellt y gweunydd; Glaswelltiroedd Calaminaraidd; Gweundir yr iseldir
Yng Nghymru ceir darnau helaeth o rostiroedd a glaswelltiroedd iseldir, ac mae pob cynefin yn cynnal cymuned doreithiog o blanhigion ac anifeiliaid. Mae'r mathau o laswelltir yn amrywio'n fawr, yn cynnwys dolydd iseldir a glaswelltiroedd calchaidd, asidaidd a niwtral. Mae rhostiroedd yn cynnwys rhostiroedd gwlyb a sych a cheir cynefinoedd yn trawsnewid o fod yn laswelltir a rhostir iseldir i fod yn ardaloedd arfordirol, fel Pen Llŷn. Mae tiroedd comin Cymru o ddiddordeb arbennig oherwydd eu cymunedau o rostiroedd a glaswelltiroedd gwlyb.
Mae Grŵp Rhostiroedd a Glaswelltiroedd yr Iseldir PBC wedi nodi ardaloedd â blaenoriaeth ar gyfer ymdrechion cadwraethol penodol yng Nghymru, a chânt eu rhestru isod. Mae’r mapiau ar gael hefyd ar ffurf GIS. Defnyddiwch yr adran cysylltwch i wneud cais am y ffeiliau.
Daw aelodau’r Grŵp Rhostiroedd a Glaswelltiroedd yr Iseldir o gyrff statudol, awdurdodau lleol ac elusennau bywyd gwyllt, a chaiff ei gadeirio gan Helen Buckingham, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.A oes gennych gwestiwn yn ymwneud â gwaith y grŵp hwn? cysylltwch