Mae brithwaith Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o gynefinoedd yn cynnwys coetiroedd hynafol, glaswelltiroedd gwlyb heb eu gwella, glaswelltir sialc, dyffrynnoedd afonydd a cheunentydd creigiog, twyni tywod arfordirol a morfa heli. Mae'r cynefinoedd hyn yn cynnal fflora a ffawna hynod amrywiol, gan gynnwys llawer o rywogaethau prin a rhai sy’n prinhau. Mae'r fwrdeistref sirol yn cynnwys tair Ardal Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Glaswelltiroedd Cefn Cribwr, coetiroedd Melin Ifan Ddu a Cynffig). Mae dynodiadau nodedig eraill yn cynnwys dwy Warchodfa Natur Genedlaethol yng Nghynffig i'r gorllewin o Borthcawl a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr. Ar un adeg roedd y ddau safle hyn yn rhan o system twyni enfawr, a oedd yn ymestyn ar hyd yr arfordir o Afon Ogwr i benrhyn Gŵyr ar un adeg. Mae Pwll Cynffig, y llyn dŵr croyw mwyaf yn y De, yng nghanol y warchodfa ac mae'n arbennig o werthfawr fel man aros i adar mudol.
Mae Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnwys cynrychiolwyr o bob math o sefydliadau, gan gynnwys adrannau awdurdodau lleol, elusennau sy'n canolbwyntio ar gadwraeth, ecolegwyr proffesiynol a phobl leol sydd â diddordeb.
Mae'r partneriaid hyn yn cynrychioli cyfoeth o brofiad cadwraeth, a'r bartneriaeth yw'r prif gyfle lleol i rannu profiad, meithrin cysylltiadau a datblygu prosiectau gyda'i gilydd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwarchod natur ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â chydlynydd bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'r bartneriaeth yn chwilio am fwy o gyfleoedd i gydweithio bob amser.
Nod Partneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr yw cysylltu pobl leol â natur a diogelu, a gwella, natur yn y sir. Rydym yn gwneud hyn drwy gydlynu a chofnodi gweithgarwch cadwraeth, darparu cyfleoedd hyfforddi, a hyrwyddo gwaith ein partneriaid.
Ar hyn o bryd mae'r bartneriaeth yn datblygu Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol sy'n gosod nodau lleol i fynd i'r afael ag amcanion ehangach yng Nghynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru. Bydd hyn yn:
Ysgogi diddordeb a chynyddu cyfranogiad mewn gweithgarwch adfer natur.
Mae'r bartneriaeth yn rhoi cyfle i unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector gael gafael ar arian gan y llywodraeth ar gyfer prosiectau adfer natur hefyd.
Ymunwch â Phartneriaeth Natur Leol Pen-y-bont ar Ogwr!
Mae Partneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu prosiectau adfer natur, cyfleoedd hyfforddi a diwrnodau gwirfoddoli yn rheolaidd sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un yn y sir. Os oes gennych unrhyw syniadau ar gyfer cadwraeth natur neu os hoffech gymryd rhan mewn prosiectau sy'n bodoli'n barod, cysylltwch â ni. Hoffem glywed gennych hefyd os ydych chi am ddysgu mwy am fyd natur ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Gweithredu
Gallwch helpu drwy gyflwyno egwyddorion ecolegol cyfrifol i'ch bywyd eich hun. Mae'r ardd yn lle da i ddechrau arni. Mae sawl adnodd ar arddio ar gyfer gwella bioamrywiaeth. Er enghraifft, mae Mai Di-dor yn fenter boblogaidd a hawdd i gychwyn arni er mwyn helpu bywyd gwyllt lleol. Yn gyffredinol, mae cynnal gardd o lystyfiant brodorol gyda chyfoeth o rywogaethau’n ffordd dda o gael effaith gadarnhaol. Ymhlith y camau eraill sy'n cael effeithiau cadarnhaol clir mae ailgylchu, codi blychau nythu a defnyddio plaladdwyr cyn lleied â phosibl.
Addysgu
Y cam cyntaf yn aml tuag at helpu natur yw dysgu mwy amdano, felly mae'r dudalen hon yn gam cyntaf gwych. Mae Partneriaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu ac yn hyrwyddo sgyrsiau a gweithdai ar gamau natur effeithiol gan ei bartneriaid yn rheolaidd. Ffordd arall o gael effaith gadarnhaol yw trwy fynychu sgyrsiau o'r fath neu rannu eich gwybodaeth eich hun.
Mae natur o'n cwmpas ym mhobman a gallwn ei werthfawrogi ym mhob lliw a llun. Fodd bynnag, mae rhai ardaloedd yn y sir sy'n gartref i gynefinoedd a chyfoeth rhywogaethau arbennig o arwyddocaol ac felly o bwysigrwydd arbennig i fywyd gwyllt. Dim ond blas o'r safleoedd sydd ar agor i'r cyhoedd yw'r canlynol ac sy'n darparu lle i fwynhau natur ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr:
Mae Golchfeydd Ogwr yn gartref i lawer o rywogaethau infertebratau prin rwbel glofeydd, fel yr ysbrydwlithen ac amryw o rywogaethau nadroedd miltroed prin. Mae'r gardwenynen frown (Bombus humilis) wedi'i chofnodi ar y safle hefyd. Mae'r safle'n gynefin pwysig i goch y berllan (Pyrrhula pyrrhula) a'r ystlum pedol (Rhinolophus). Mae'r safle’n dyst i werth y Bartneriaeth Natur Leol hefyd, ar ôl sicrhau cyllid drwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Cynffig yn cynnwys system dwyni enfawr a Phwll Cynffig, sef y corff naturiol mwyaf o ddŵr croyw yn y De. Mae'n un o'r ychydig safleoedd yn Ewrop lle gellir gweld tegeirian y fign galchog (Liparis loeselii) sydd mewn perygl. Mae hefyd yn un o'r unig lefydd yn y DU y gellir gweld aderyn y bwn (Botaurus stellaris) yn ystod y gaeaf. Gallwch weld y cwtiaid aur, hwyaid copog a hwyaid pengoch o'r cuddfannau adar sy'n edrych dros y pwll.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr yn gartref i'r twyni uchaf yng Nghymru gyfan, a'r uchaf ond un yn Ewrop, a elwir yn 'Big Dipper'. Mae'r cyfuniad o glogwyni calchfaen hynafol a gorchudd o dywod yn creu swbstrad daearegol unigryw sy'n cynnal cyfoeth o blanhigion, pryfed a ffyngau anarferol. Mae'r safle'n gartref i degeirianau prin fel caldrist y gors (Epipactis palustris), ffyngau diddorol Morel a Helvella ac infertebratau sydd dan fygythiad fel gwenynen y gwcw (Coelioxys mandibularis).
Mae Gwarchodfa Natur Parc Slip yn cynnwys brithwaith o gynefin amrywiol gan gynnwys glaswelltir, coetir, gwlyptiroedd a llynnoedd dŵr croyw. Mae'r dylluan frech (Strix aluco), llygoden y coed (Apodemus sylvaticus), cnocell werdd (Picus viridis), cornchwiglen (Vanellinae) a'r rhegen dŵr (Rallus aquaticus) oll i’w gweld ar y safle hwn. Mae gan Barc Slip gasgliad da o amffibiaid hefyd, gan gynnwys y fadfall gribog (Triturus cristatus). Yn yr haf, gellir gweld llygad llo mawr (Leucanthemum vulgare), gorudd (Odontites vernus) ac amrywiaeth o degeirianau gwyllt yn y caeau o amgylch y ganolfan ymwelwyr.
Mae Parc Gwledig Bryngarw yn stad 100 erw gerllaw ysblander Tŷ Bryngarw. Mae’r parc yn cynnwys coetir llydanddail aeddfed, glaswelltir, dolydd blodau gwyllt a phyllau, ac mae’n frith o rywogaethau. Mae llwynogod a chnocell y coed i'w gweld yn y coetir, tra mae’r pyllau’n gartref i'r fadfall ddŵr balfog (Lissotriton helveticus) a'r llyffant dafadennog (Bufo bufo). Gan ei fod yn Barc Gwledig, mae Bryngarw’n cynnig cyfle gwych i deuluoedd fwynhau byd natur ac mae'n cynnig cysylltiadau â Chwm Garw ar hyd y llwybr cymunedol.
Gwarchodfa Natur Leol Comin Locks yw un o chwe gwarchodfa natur leol y fwrdeistref sirol. Mae'r comin hefyd yn Safle Daearegol Rhanbarthol Pwysig gan ei fod yn cynnwys dau hectar o balmant calchfaen. Mae'r swbstrad daearegol anarferol hwn yn cynnal casgliad penodol ac amrywiol o blanhigion gan gynnwys rhywogaethau fel mandon fach (Asperula cynanchica), teim gwyllt (Thymus polytrichus) ac effros (Euphrasia sp.). Mae'r comin yn cynnwys, glaswelltiroedd niwtral, prysgwydd a nodweddion rhostir isforol hefyd. Mae'r rhostir isforol yn gynefin prin sydd ond i’w weld ar arfordir gorllewinol yr Iwerydd fel arfer. Diolch i'w leoliad arfordirol, mae golygfeydd ysblennydd o Abertawe a Dyfnaint ar ddiwrnod clir.
Weithiau, mae morloi llwyd (Halichoerus grypus), llamhidyddion (Phocoena phocoena) a dolffiniaid cyffredin (Delphinus delphis) i'w gweld yn y môr o amgylch Porthcawl. Cadwch lygad amdanyn nhw wrth gerdded ar hyd y promenâd.
Mae'r wiber (Vipera berus), neidr y gwair (Natrix natrix) ac amrywiaeth eang o blanhigion gwlyptir diddorol gan gynnwys llugaeron (Vaccinium oxycoccos), ffeuen y gors (Menyanthes) a hesgen blodau anghyfagos (Carexr emota) wedi'u cofnodi yn yr ardaloedd gwlypach o amgylch Cwm Ogwr.
Mae glaswelltiroedd corsiog o gwmpas Cwm Risca yn cynnal poblogaeth o frith y gors (Euphydryas aurinia) sydd o bwys cenedlaethol. Cadwch lygad hefyd am ei brif blanhigyn bwyd, tamaid y cythraul (Succisa pratensis).
Gellir gweld caldrist y gors (Epipactis palustris) hardd yn blodeuo ym Merthyr Mawr yn yr haf. Ar yr un safle, dylai’r rhai sy'n hoff o ffyngau gadw llygad ar y Morel unigryw, sy'n dwyn ffrwythau o fis Mawrth i fis Mehefin.
Mae coetiroedd ar lawr cwm Llynfi’n cynnwys rhywogaethau glöyn byw nodedig megis yr iâr wen wythiennog (Pieris napi) a brith y coed (Pararge aegeria), yn ogystal ag ambell redynen o bwys fel rhedynen bêr y mynydd (Oreopteris limbosperma) a thafod yr hydd (Asplenium scolopendrium).
Mae ardaloedd ucheldirol Llynfi a Garw yn llefydd da i weld hebogiaid tramor (Falco peregrinus), barcutiaid coch (Milvus milvus), troellwyr mawr (Caprimulgus europaeus) a gweilch Marthin (Accipiter gentilis) ac amrywiaeth o rywogaethau ystlumod.
Mae Afon Garw, sy'n llifo o'r gogledd i'r de trwy Ogledd y sir, yn gynefin rheolaidd i las y dorlan (Alcedo atthis) ac ystlum y dŵr (Myotis daubentoniid). Yn yr un modd, mae Afon Ewenni ar ffin ddwyreiniol y fwrdeistref sirol hefyd yn cynnal amrywiaeth o rywogaethau gan gynnwys y brithyll (Salmo trutta) a'r gangen las (Thymallus thymallus).
Mae ysbrydwlithod (Selenochlams ysbryda) hynod swil, a gofnodwyd fel rhywogaeth yn 2008, wedi'u canfod yng Ngolchfeydd Ogwr. Gall entomolegwyr amatur ddod o hyd i amrywiaeth eang o infertebratau diddorol ac anarferol ar y safle.
Mae ystlumod lleiaf (Pipistrellus sp.) i'w gweld, ochr yn ochr â chornchwiglod (Vanellus vanellus) a thelorion helyg (Phylloscopustrochilus) o amgylch glaswelltiroedd Betws.
Yn olaf, cadwch lygad am gerfluniau derw ‘Ceidwaid Natur’ ar hyd a lled mannau gwyrdd Pen-y-bont ar Ogwr. Mae 5 ym mharc gwledig Bryngarw, a 5 arall i’w gweld yn safleoedd gwarchodedig y sir.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Swyddfeydd Dinesig
Stryd yr Angel
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4WB