Er bod Sir Fynwy a Chasnewydd yn Awdurdodau gwahanol iawn, mae ganddynt hefyd lawer o gynefinoedd, rhywogaethau a ffactorau economaidd-gymdeithasol cyffredin sy'n siapio eu cynefinoedd naturiol a lefelau gwydnwch eu hecosystemau. Mae llawer o bobl o'r farn bod Casnewydd yn awdurdod trefol, gyda'i threftadaeth ddiwydiannol, ei dociau a phoblogaeth ddwys canol y dref. Fodd bynnag, mae 75% o'r awdurdod mewn gwirionedd yng nghefn gwlad, ac mae llawer o'r nodweddion ecolegol pwysicaf wedi eu rhannu â Sir Fynwy, megis Lefelau Gwent, Afon Wysg a Choed Gwent.
Mae Casnewydd wedi cynnal partneriaeth bioamrywiaeth lwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae adeiladu ar y llwyddiant hwn a chyfuno i greu partneriaeth ar y cyd ledled Sir Fynwy a Chasnewydd yn galluogi'r bartneriaeth i rannu gwybodaeth a chyfuno adnoddau i gyflawni ar raddfa tirwedd a sicrhau'r manteision mwyaf posibl i fioamrywiaeth. Mae cydgysylltwyr y bartneriaeth yn rhan o Gynghorau Sir Fynwy a Chasnewydd.
Diogelu a gwella cynefinoedd lled-naturiol presennol ar draws Sir Fynwy a Chasnewydd, a lle y bo'n addas creu cynefinoedd lled-naturiol newydd
Nodi rhywogaethau sy'n bwysig yn lleol a'r camau sydd eu hangen i'w diogelu
Cynyddu ymwybyddiaeth o fywyd gwyllt lleol a ffyrdd y gall pobl gael mynediad at natur gan annog pobl i gymryd rhan mewn cadwraeth
Dylanwadu ar weithgareddau rheoli cadwraeth, rhannu gwybodaeth a rhoi cyngor ar arferion gorau
Cefnogi gwaith partneriaeth rhwng sefydliadau neu unigolion i sicrhau'r manteision mwyaf posibl
Coladu gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau sydd o bwys allweddol i gadwraeth yn Sir Fynwy
Cefnogi a datblygu prosiectau sy'n cyfrannu at nodau'r Bartneriaeth
Rhoi cyngor ar bolisi a chyfrannu at greu'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur leol
Cydlynydd PNL
PNL Sir Fynwy
Ffon: 01633 644850
Ebost: LocalNature@monmouthshire.gov.uk
Gall golygfeydd achlysurol o unrhyw fywyd gwyllt fod yn werthfawr os byddwch yn eu cofnodi nhw. Ffordd syml o wneud hyn yw defnyddio system gofnodi ar-lein SEWBReC, sef neu drwy lawrlwytho Ap LERC Cymru i'ch dyfais symudol.
Mae cofnodion yn helpu i achub bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt sy'n rhan o'n hecosystem a rennir.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd mewn edrych ar gofnodion ar gyfer eich ardal ar wefan Aderyn.
Dyma ddetholiad o rai o'r safleoedd lle gallwch weld natur yn Sir Fynwy a Chasnewydd
Gwarchodfa Natur Allt-yr-ynn, Casnewydd – mae Allt-yr-ynn yn cefnogi coetir a dolydd hynafol. Mae'r coetir yn gartref i bron i 50 rhywogaeth wahanol o aderyn, ac mae 7 rhywogaeth mamaliaid wedi'u cofnodi ar y warchodfa, ynghyd â madfallod, brogaod a nadroedd y gwair. Gwyddom fod gleision y dorlan yn defnyddio’r tri phwll yn y warchodfa, a bod ystlumod yn eu defnyddio nhw fin nos i hela am bryfed uwchben yr wyneb.
Dolydd y Castell, y Fenni – Yng nghanol y Fenni, rheolir y dolydd wrth ochr Afon Wysg gan ddilyn dulliau traddodiadol o reoli dolydd sydd ar orlifdir. Mae'r caeau'n cael eu tyfu ar gyfer gwair ac yna pori gwartheg. Mae'r afon yn cynnig cyfleoedd gwylio bywyd gwyllt gwych, gydag ystlumod liw nos a gwenoliaid duon yn yr haf.
Y Pedwar Loc ar Ddeg, Rogerstone – Mae'r ganolfan wedi'i lleoli ar frig cyfres unigryw o 14 o lociau ar Gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Nid yw'r rhan hon o’r gamlas bellach yn weithredol, ond mae'n cynnig lleoliad gwych ar gyfer gwylio bywyd gwyllt, yn ogystal â chipolwg diddorol iawn ar hanes y safle.
Coed Neuadd Goetre, ger y Fenni – Coetir bach o goed ffawydd ger Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu sy'n swyno ymwelwyr â charped o glychau'r gog yn y gwanwyn a lliwiau hyfryd yr hydref yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae hwn yn gartref i lawer o rywogaethau adar a gellir ei ddefnyddio fel dechrau taith gerdded gylchol ar hyd y gamlas i weld mwy o fywyd gwyllt.
Parc Gwledig Rogiet, Rogiet – Wedi'i adfer o hen gilffyrdd rheilffordd yn y 1990au, mae'r parc gwledig bellach yn fosaig prydferth o gynefinoedd llawn blodau sy'n darparu cyfoeth o gynefinoedd i infertebratau. Mae tegeirian bera a thegeirian y wenynen wedi’u cofnodi yma.
Parc Sant Julian - Mae Gwarchodfa Natur Leol Parc Sant Julian yn ofod agored mawr rhwng Heol Christchurch a Ffordd Caerllion. Mae’r cyfeiriad hysbys cyntaf at y safle fel 'Y Parc a Pharc Sant Julian' yn dyddio'n ôl i 1583 pan gyfeiriwyd ato fel parc ceirw canoloesol. Nodwyd poblogaeth ffyniannus o wenyn y clafrllys yn ddiweddar ar y safle hwn – sy’n rhywogaeth brin iawn.