Sut i gymryd rhan
Gallwch gymryd rhan fel unigolyn, grŵp cymunedol, teulu, ysgol, neu gallwch ymuno ag un o'n digwyddiadau partner. Nid oes angen i chi fynychu digwyddiad i ddathlu Wythnos Natur Cymru. Y cwbl sydd angen i chi wneud yw mynd allan i werthfawrogi’r natur sydd ar garreg eich drws yn ystod Wythnos Natur Cymru. Gallai fod yn ddechrau ar berthynas gydol oes!
Byddwch yn rhan o'r stori! Rhannwch eich straeon a’ch profiadau o fyd natur gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru a dangoswch eich angerdd dros fyd natur!
Yr hyn sy’n bwysig yw mai chi sy’n dewis sut i ddathlu Wythnos Natur Cymru.
Dyma ambell awgrym gwych i fanteisio i’r eithaf ar Wythnos Natur Cymru.
- Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol. Instagram Facebook X/Twitter
- Ewch allan i'r ardd a gweld beth allwch chi ei weld! Os oes gennych chi fwy o amser – gall mynd am dro yn eich parc neu warchodfa natur leol ddatgelu nifer syfrdanol o rywogaethau.
- Tynnwch lun neu fideo o'r hyn rydych chi'n ei weld a'i rannu ar y cyfryngau cymdeithasol.
- Tagiwch eich postiadau gan ddefnyddio #WythnosNaturCymru i fod yn rhan o'r stori a rhannu rhyngweithiadau â grwpiau ac unigolion eraill.
- Edrychwch ar dudalen ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru am ddigwyddiad yr hoffech fynd iddo.Cysylltwch â threfnydd y digwyddiad gan ddefnyddio'r wybodaeth a ddarperir am y digwyddiad i archebu neu os nad oes angen archebu lle dewch draw ar y diwrnod!
- Ysbrydolwch eich teulu ac aelodau’ch gweithle i gyflawni gweithredoedd ar ran natur.
- Edrychwch ar ein tudalennau adnoddau i gael awgrymiadau gwych ar sut y gallwch chi helpu natur gyda chamau syml y gall unrhyw un eu gwneud.
Ysgolion
Mae Wythnos Natur Cymru’n ffordd wych o gael disgyblion a staff i ymwneud â natur. Gallwch ddefnyddio gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth, neu dir eich ysgol. Os ydych chi'n ddigon ffodus i gael ardaloedd natur, gallwch gynllunio gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar natur.
Dewch yn ysgol sy’n Caru Gwenyn – gweler yr adran Caru Gwenyn i gael syniadau
Ydych chi'n bwriadu trefnu digwyddiad neu weithgaredd yn Wythnos Natur Cymru?
Poster calendr natur
Edrychwch ar ein tudalen ddigwyddiadau i weld sut y gallwch gymryd rhan.
Unrhyw gwestiynau? E-bostiwch ni gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych chi. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i gymryd rhan yn Wythnos Natur Cymru!