Er mwyn gwarchod rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid sydd mewn trafferth, mae angen i gadwraethwyr wybod beth sy'n bresennol, ymhle, faint o bob rhywogaeth sydd yno, pryd maent yno, ac a yw hyn wedi newid o flwyddyn i flwyddyn. Gall gwybodaeth o'r fath helpu i greu darlun o ba rywogaethau sy'n ffynnu a pha rai sy'n dioddef, ac o dan ba amgylchiadau. Gall cadwraethwyr wedyn benderfynu ar sail y patrymau sy'n dod i'r amlwg beth sy'n mynd o'i le mewn ardal a sut i helpu rhywogaethau i adfer.
Mae cofnodi byd natur hefyd o fudd i'r bobl sy'n cymryd rhan gan y gall adnabod rhywogaeth ysgogi'r meddwl; gall awyr iach a chwilio am rywogaethau wella iechyd corfforol; a gall cymryd rhan mewn arolygon mewn grŵp helpu i ffurfio perthynas ag eraill a mynd i'r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol. Yn ogystal, wrth gymryd rhan mewn arolygon, byddwch yn rhan o hen draddodiad o astudio a chofnodi byd natur ym Mhrydain sy'n dyddio'n ôl i'r ddeunawfed ganrif.
Mae'r wybodaeth mewn cofnod yn amrywio gan ddibynnu ar ba fath o arolwg yr ydych yn ei gynnal. Yn gyffredinol, cofnodir y rhywogaeth a welwyd gan berson, ymhle, a pha bryd. Mae rhai arolygon yn gofyn i chi chwilio am rywogaethau penodol, tra efallai y bydd eraill yn gofyn i chi fynd i leoliadau penodol. Bydd rhai mudiadau'n gofyn am wybodaeth ysgrifenedig tra bydd eraill yn gofyn am luniau. Un peth i fod yn wyliadwrus ohono yw osgoi rhannu lleoliad rhywogaethau sensitif neu safleoedd magu. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi rhestr o nodweddion sensitif ac arweiniad ar sut y dylid delio gyda'r cofnodion hyn.
Mae yna lawer o fudiadau sy'n casglu cofnodion ac yn cynnal arolygon sy'n recriwtio gwirfoddolwyr neu'n gofyn am gymorth achlysurol. Mae yna ambell i beth i'w ystyried cyn dechrau arni, megis faint o amser yr hoffech ei dreulio'n cofnodi ac a hoffech gofnodi pob math o fywyd gwyllt ynteu canolbwyntio ar grŵp penodol. Mae rhai arolygon ar gael drwy gydol y flwyddyn tra gall eraill fod yn ystod tymhorau neu fisoedd penodol pan fo rhywogaethau'n fwyaf gweithgar. Er enghraifft, cynhelir arolygon o'r wennol ddu tua diwedd y gwanwyn / yn yr haf pan fyddant yn mudo i Brydain tra'r amser gorau i astudio madarch yw diwedd yr haf / yn yr hydref. Mewn rhai arolygon, efallai y bydd angen i chi fynd allan gydag arbenigwr hyfforddedig, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig, tra gellir dod o hyd i rywogaethau eraill heb orfod paratoi ymlaen llaw yn eich gardd neu'ch parc lleol. Mae'n werth ystyried a fyddai'n well gennych fynd allan gyda grŵp ynteu gwneud arolwg ar eich pen eich hun gan y gall hyn effeithio ar ba ymgyrchoedd y cymerwch ran ynddynt.
Y dyddiau hyn mae modd cyflwyno'r rhan fwyaf o gofnodion drwy wefan neu ap symudol, ond mae rhai mudiadau'n dal i dderbyn cofnodion a ysgrifennwyd â llaw. Mae llawer o grwpiau hefyd ar y cyfryngau cymdeithasol felly os ydych yn ansicr beth rydych wedi'i gofnodi gallwch ofyn i gofnodwyr eraill; mae'r grwpiau hyn yn amrywio o ddechreuwyr i arbenigwyr felly efallai yr hoffech chwilio o gwmpas am dipyn i ddod o hyd i un sy'n addas i'ch lefel o wybodaeth (mae rhai grwpiau'n defnyddio enwau gwyddonol rhywogaethau a all fod braidd yn ddryslyd os ydych yn newydd i gofnodi). Gallwch fod yn sicr serch hynny fod yna sawl ffordd o fynd ati i gofnodi, ni waeth faint o amser, diddordeb neu wybodaeth sydd gennych.
Os hoffech ddechrau arolygu bywyd gwyllt, planhigion, a chynefinoedd cymerwch olwg ar yr ymgyrchoedd a'r mudiadau a nodir yn yr adnodd hwn.
Gallech ddechrau drwy ganolbwyntio ar fathau o blanhigion neu anifeiliaid yr ydych yn arbennig o hoff ohonynt neu ar yr adeg o'r flwyddyn pan ydych yn fwyaf tebygol o fod ag amser i chwilio am fywyd gwyllt a'i gofnodi. Ceir hefyd apiau symudol ac adnoddau y gallwch eu lawrlwytho i'ch helpu i adnabod a chofnodi rhywogaethau yn haws nag erioed o'r blaen.
Am fwy o weithgareddau natur, edrychwch ar ein 'Buddsoddi ym Myd Natur - Adnoddau'.