Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o ddathliadau Wythnos Natur Cymru!

Diolch o galon i’n sefydliadau partner ac i Bartneriaethau Natur Lleol sy’n gyfrifol am gynnal Wythnos Natur Cymru. A diolch i’r gymuned cyfryngau cymdeithasol – ffrindiau hen a newydd am rannu eich negeseuon a’ch brwdfrydedd tuag at natur â ni!
Mae ein sianeli cymdeithasol yn agored drwy’r flwyddyn. Cofiwch ddal ati i bostio a rhannu eich profiadau natur!

Edrychwn ymlaen at ymuno â chi i ddathlu Wythnos Natur Cymru 2025!

Beth i'w ddisgwyl mewn digwyddiadau

Bydd rhywbeth i bawb – digwyddiadau i unigolion, teuluoedd a'r rhai sy'n newydd i fyd natur, ac i'r naturiaethwr mwy profiadol.

Cynhelir digwyddiadau Wythnos Natur Cymru bob blwyddyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Natur a'r RSPB, gwarchodfeydd natur lleol a chenedlaethol, parciau a mannau gwyrdd cymunedol, ysgolion a safleoedd addoli, traethau ac ardaloedd arfordirol.

Mae digwyddiad nodweddiadol yn cynnwys taith gerdded wedi’i thywys ar safle natur. Bydd arweinydd arbenigol yn tynnu sylw at blanhigion ac anifeiliaid a phwysigrwydd y cynefin ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae'r mwyafrif helaeth o'r digwyddiadau yn rhad ac am ddim*

*Efallai y codir tâl mynediad i ychydig o ddigwyddiadau. Mae hyn yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae'r sefydliad yn ei wneud ar ran natur.

Dathlu Natur Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Taith dywys Ystumlod

Gregynog Croeso Adref i Fyd Natur

Gwenoliaid duon Trefriw

Torri Rhedyn Abergwyngregyn

Taith gerdded gwenoliaid duon Porthaethwy

Yoga Awyr Agored

Diwrnod y Dolydd, Dôl Gymunedol Tegeirian

Taith Natur Six Bells

Digwyddiad Jac y Neidiwr Yr Wyddgrug

Diwrnod plannu blodau cymunedol

Blitz Balsam Gwlyptiroedd Morfa

Diwrnod Cenedlaethol Dolydd Rhosili

Sioe Deithiol y Gwasanaethau Stryd! Fflint

Darganfod Gweision y Neidr yng Nghors Magwyr

Cyfeillion Coetir Cymunedol Nant Fawr

Ewch yn Wyllt

Cyfrif Mawreddog y Tegeirian Lydanwyrdd

Crefftau Gyda Natur

Darganfod Gwyfynod yng Ngarwnant

Gweminar Gwybodaeth: Gwasanaeth Natur Cymru

Gwerth Coetiroedd Trefol

Lansio Prosiect Afon Llugwy Gwylltach

Diwrnod Adnabod Cacwn i Ddechreuwyr

Dwylo Diwyd Gwynedd

Yr Awr Natur ALLUOGI

https://www.eventbrite.co.uk/e/cadoxton-ponds-guided-walk-tickets-923579550297?aff=oddtdtcreator

Gwaith jac-y-neidiwr

Half Drysor Wythnos Natur

Gŵyl Natur y Fro

Taith Gerdded Dywysedig a Gwylio Dolffiniaid

Dro Drwy’r Dolydd Bryncoch

Diwrnod Gwirfoddoli

Taith Gerdded Blodau Gwyllt Y Graig

Taith Feithrinfa Celtic Wildlflowers

Taith gerdded gwenoliaid duon Bethesda

Taith Gerdded Lles

Taith gerdded pryfed tân

Taith gerdded y Wenoliaid Duon Caergybi

Mamaliaid Morol Gogledd Cymru

Darganfod Gweision y Neidr yng Ngwlyptiroedd Casnewydd

TAITH GERDDED BLODAU GWYLLT YN COEDWIG MARL HALL

https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/events/2024-07-07-nid-yn-unig-y-tegeirianau

Digwyddiadau codi ymwybyddiaeth

  • Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhannu straeon a lluniau bob dydd ar ein sianeli mewnol yn ystod Wythnos Natur Cymru o’r hyn y mae staff yn ei wneud yn eu gerddi eu hunain i wneud lle i fyd natur. Ein cam gweithredu ym mis Mehefin yn ein calendr cynaliadwyedd yw 'Rhoi Cartref i Fyd Natur' ac mae gennym ni weithdy Rhwydwaith Eiriolwyr Gwyrdd y gall staff ei fynychu i gael awgrymiadau da ac ysbrydoliaeth!
  • Dathlu Wythnos Natur Cymru drwy ddarllen gyda Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â mynd allan i archwilio byd natur yn Sir Gâr, beth am archwilio byd natur yn eich llyfrgell leol yn ystod Wythnos Natur Cymru? Bydd darllen llyfrau natur yn eich cyflwyno I rywogaethau a chynefinoedd newydd, lleoedd i ymweld â nhw, llwybrau cerdded lleol ac yn eich helpu i werthfawrogi a deall y byd naturiol o'ch cwmpas.
  • I ddathlu Wythnos Natur Cymru, mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi lansio cystadleuaeth garddio er lles bywyd gwyllt. Gall unrhyw un gystadlu, p’un a oes gennych chi gafn bach o dan ffenest, basged grog, pwll o faint bwced, blwch plannu oddi ar y ddaear, gardd gymunedol, gardd ar y to, neu ardd gefn neu flaen draddodiadol. Bydd eich cynnig yn cyfrannu at fap o’r ddinas gyfan i ddangos lleoliad gerddi sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt yng Nghaerdydd. Rhowch eich gardd yn y gystadleuaeth yma
  • Natur am Byth! Bydd swyddog prosiect y Fritheg Frown yn mynychu digwyddiad Dathlu Natur yn Amgueddfa Sain Ffagan ar 29 Mehefin i godi ymwybyddiaeth o'r glöyn byw prin a hardd hwn
  • Bydd Cystadleuaeth Gerflunio Glöynnod Byw Saint-y-brid yn cael ei chynnal am y tro cyntaf, gydag enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 2 Gorffennaf 7pm yn y Fox, Saint-y-brid – ar y cyd â Caitlin Jenkins (Crochendy Ewenni) rydym yn annog pob cartref yn Saint-y-brid i greu cerflun o löyn byw. i ddathlu'r Fritheg Frown.
  • Ymunwch â wardeniaid Cemlyn ar daith gerdded dywys o amgylch Gwarchodfa Natur anhygoel Cemlyn i weld môr-wenoliaid pigddu, môr-wenoliaid cyffredin a môr-wenoliaid Arctig yn nythu yn y gytref adar môr ysblennydd hon. Rhagor o wybodaeth a manylion archebu yma
  • Ar 1 Gorffennaf bu Ysgol Llanbedrog yn cymryd rhan mewn Taith Gerdded Morwellt ym Mhorthdinllaen fel rhan o raglen Natur am Byth! Prosiect Môr
  • Tîm Gylfinir yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt Cymru yn Nyffryn Maldwyn a Threowen yn ystod Wythnos Natur Cymru yn tynnu sylw at brosiect Cysylltu Gylfinir Cymru sy'n ceisio cynyddu llwyddiant bridio'r gylfinir yng Nghymru
  • Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal gweithgaredd Cyfrifo FIT yn benodol gyda disgyblion ysgol uwchradd y Fenni gyda chymorth gan Grid Gwyrdd Gwent.
  • Wythnos Natur Cymru: Glanhau'r Traeth gyda Ysgol Cynfran: Yn ystod Wythnos Natur Cymru, cymerodd The Wild Oyster Project, mewn partneriaeth â Keep Wales Tidy, ddisgyblion o Ysgol Cynfran i Fae Cinmel ar gyfer glanhau traeth. Rhoddodd y weithgaredd ymarferol hwn ddealltwriaeth ddyfnach i'r disgyblion o bwysigrwydd cadw ein hamgylchedd arfordirol a'n cynefinoedd.
  • Gweithdy gyda Ysgol Bryn Elian: Ar Orffennaf 12fed, cynhaliwyd gweithdy ymgysylltiol gyda disgyblion o Ysgol Bryn Elian. Dangoswyd eu hymdrechion parhaus i adfer poblogaeth a chynefinoedd yr wystrys brodorol. Roedd y gweithdy hwn wedi'i anelu at ysbrydoli'r disgyblion i ofalu am yr amgylchedd morol a dod yn stiwardiaid morol yn y dyfodol, gan gyfrannu at gynyddu llythrennedd y cefnforoedd.
  • Canlyniadau gweithgareddau: Creodd The Wild Oyster Project effaith gadarnhaol ar y disgyblion a'r gymuned, gan feithrin gwerthfawrogiad mwy o'n hecosystemau arfordirol a morol. Diolch i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd y mentrau hyn!

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt