Gwneud Lle i Fyd Natur

Mae ein bywyd gwyllt dan fygythiad wrth i gynefinoedd ddiflannu ac oherwydd newidiadau yn yr hinsawdd a achoswyd gan ddyn.

Daw cynnwys y dudalen hon o brosiect Buddsoddi ym Myd Natur. Mae’r prosiect wedi dod i ben erbyn hyn ac o’r herwydd nid yw’r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru.

Mae ecosystemau iach yn rhoi buddion cynyddol i bobl a chymdeithas megis darparu amddiffynfa naturiol rhag tywydd eithafol, helpu i gynhyrchu mwy o fwyd a gwella llesiant. Mae bywyd gwyllt yn chwarae rhan hanfodol yn gwarchod ecosystemau bregus drwy beillio a rheoli cynefinoedd.

Mae sawl ffordd y gall grwpiau a mudiadau wneud lle i fyd natur a helpu i ddarparu cynefinoedd hanfodol i'n planhigion a'n bwyd gwyllt.

Cyfoeth Naturiol Cymru - Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol

Mae'r Adroddiad o Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR), yr adroddiad cyntaf o'i fath, yn gwneud cysylltiad uniongyrchol rhwng cyflwr ein hadnoddau naturiol a'r effeithiau ar iechyd pobl, ffyniant economaidd a lles cymdeithasol.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt