Cyflwyniad

Mae Caru Gwenyn (Bee Friendly) yn fenter sydd wedi'i hanelu at gymunedau a sefydliadau cymunedol, ysgolion, cyrff cyhoeddus, cynghorau tref a chymuned, busnesau, prifysgolion a cholegau, addoldai a llawer o sefydliadau eraill ledled Cymru.

Er mai enw’r cynllun yw Caru Gwenyn, rydym am i bobl gymryd camau i helpu pob un o'n pryfaid peillio, nid gwenyn yn unig. Mae peillwyr yn cynnwys gwenyn mêl, cacwn a gwenyn unigol, rhai gwenyn meirch, glöynnod byw, gwyfynod, pryfed hofran, rhai chwilod a phryfed.

Mae Caru Gwenyn wedi'i rannu'n pedair thema. Mae'r tair thema gyntaf yn adlewyrchu'r hyn sydd angen i bryfaid peillio ffynnu; amgylchedd sydd â ffynonellau bwyd amrywiol a maethlon, dŵr a safleoedd nythu, ac sy'n rhydd o blaladdwyr niweidiol. Mae'r bedwaredd thema’n adlewyrchu pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a chynhwysiant.

Y pedair thema yw:

Bwyddarparu ffynonellau bwyd sy'n ystyriol o bryfed peillio yn eich ardal

Llety pum serendarparu lleoedd i bryfed peillio fyw

Rhydd rhag plaladdwyr (mae hyn yn cynnwys pryfladdwyr a chwynladdwyr) – ymrwymo i osgoi cemegion sy'n niweidio pryfed peillio

Hwylcynnwys yr holl gymuned a dweud wrth bobl pam eich bod yn helpu pryfed peillio

Fel grwpiau a sefydliadau cymunedol, neu gyrff cyhoeddus gyda rhanddeiliaid lleol, neu fusnesau gyda chwsmeriaid lleol, neu unigolyn pryderus, rydych mewn sefyllfa ddelfrydol i wybod y camau mwyaf priodol y gallwch eu cymryd yn eich ardal chi. Cymerwch olwg i weld pa gamau y gallwch chi eu cymryd i wneud ein byd ychydig bach yn wyrddach. Darganfyddwch Ganllaw Gweithredu Caru Gwenyn, cwestiynau cyffredin, ffurflen gais a rhestr peiriannau.

Rhywogaethau yng Nghymru

Amffibiaid ac Ymlusgiaid

Adar

Cennau

Cadwraeth Mamaliaid

Bryoffytau

Anifeiliaid di asgwrn cefn

Helpu Bywyd Gwyllt

Garddio bywyd gwyllt