Mae bob amser yn arbennig gweld mamaliaid morol, maent yn rhywogaethau morol mawr a charismatig.
Gellir grwpio mamaliaid morol yn deulu'r morfilod (enw cyfunol ar gyfer morfilod, dolffiniaid a llamhidyddion) a mamaliaid adeindroed (morloi). Yma, rydym yn cynnwys y dyfrgi Ewropeaidd yn yr adran hon fel mamal dyfrol sy'n treulio cyfran sylweddol o'i amser yn bwydo yn amgylchedd morol y glannau.
Mae mamaliaid morol i gyd yn rhoi genedigaeth i epil byw, ond nid oes yr un ohonynt yn dangos yr arferion bridio toreithiog a geir ymhlith llawer o gymheiriaid daearol llai, gyda'r rhan fwyaf yn rhoi genedigaeth fel arfer i un llo bob un i bedair blynedd. Mae pob mamal morol yn anadlu aer ond gallant blymio i ddyfnder sylweddol am gyfnodau hir o amser. Mae mamaliaid morol yn brif ysglyfaethwyr, sy’n bwyta pysgod yn bennaf yn y golofn ddŵr neu ar wely'r môr. Mae llawer o rywogaethau o deulu'r morfilod yn defnyddio ecoleoli i ddod o hyd i fwyd a chyfathrebu â'i gilydd a gall sŵn tanddwr o waith dyn darfu arnynt.
O gymharu â'r 47 o rywogaethau mamaliaid daearol, mae’r mamaliaid morol sy'n treulio rhan sylweddol o'u bywyd yn bwydo a magu yn nyfroedd Cymru yn gymharol brin. Ymhlith y rhywogaethau sy'n debygol o gael eu gweld yw'r morlo llwyd, y dolffin trwynbwl, dolffin Risso, y dolffin cyffredin, y morfil pigfain, y llamhidydd, a'r dyfrgi Ewropeaidd a welir ar yr arfordir ond sydd braidd yn anodd ei ganfod. Gall rhywogaethau eraill fod yn ymwelwyr cyson sy’n mynd trwy ddyfroedd Cymru wrth deithio o un ardal i un arall neu i fwydo ar adegau penodol o’r flwyddyn – mae’r rhain yn cynnwys rhywogaethau fel y morfil cefngrwm. O bryd i'w gilydd, ceir crwydriaid anarferol iawn yng Nghymru sydd y tu allan i'w cynefin arferol (e.e. y walrws).
Mae Cymru’n cynnal poblogaethau o famaliaid morol sy’n bwysig yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bae Ceredigion yw un o’r unig leoedd yn y DU sydd â phoblogaeth breswyl o ddolffiniaid trwynbwl Tursiops truncatus, gyda thua 200-300 wedi'u canfod yn yr ardal, gan gyrraedd uchafbwynt rhwng mis Medi a mis Hydref. Ceir nifer sylweddol o lamidyddion o amgylch arfordiroedd Cymru hefyd, a gwarchodir y drwy dair ACA fawr.
Mae dolffin Risso Grampus griseus yn ddolffin mawr arall sy’n plymio dwfn, sy'n aml â chreithiau nodedig. Mae'r rhywogaeth hon i’w gweld yn dymhorol yn yr haf o amgylch Ynys Enlli, oddi ar Benrhyn Llŷn, a gellir ei gweld hefyd oddi ar ogledd Ynys Môn; gellir gweld y dolffiniaid yn agos i'r lan a chredir eu bod yn bwydo ar fôr-lewys.
Mae'r dolffin cyffredin Delphinus delphis yn ddolffin acrobatig llai a geir ar y môr yn y Dyfnderoedd Celtaidd ac o amgylch Sir Benfro a Sianel San Siôr, lle maent i'w cael yn aml mewn codennau mawr.
Mae Ynys Skomer ac Ynys Dewi ac arfordir gogledd Sir Benfro yn lleoedd arbennig o bwysig i forloi llwyd Halichoerus grypus, ac amcangyfrifir bod tua 5,000 ohonynt yn byw yn yr ardal. Gellir eu gweld yn gorwedd ar lannau creigiog a thywodlyd ac mae eu morloi bychain â chot wen yn cael eu geni yn yr hydref, yn aml mewn ogofâu môr. Mae nifer y morloi bychain a gynhyrchir yng Nghymru yn cynrychioli tua 2-3% o’r cyfanswm a gynhyrchir yn y DU bob blwyddyn ac maent yn nodweddiadol o bedair Ardal Morol Gwarchodedig yng Nghymru. Yng Nghymru hefyd, ceir nifer bach o'r morlo cyffredin Phoca fitulina, sy’n llai o faint, ond credir nad yw'r rhywogaeth yn bridio yng Nghymru ac felly nid yw'n rhan o unrhyw safle gwarchodedig Cymru.
Nid yw'r dyfrgi Ewropeaidd Lutra lutra wedi'i gyfyngu i amgylcheddau morol ond mae'n defnyddio ardaloedd morol y glannau i fwydo. Mae poblogaeth y dyfrgi yng Nghymru yn eang ond ar ddwysedd isel, ac mae tair ACA forol yng Nghymru lle mae dyfrgwn wedi’u dynodi’n nodwedd ohonynt.
Gwarchodir mamaliaid morol yn gryf o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth.
Mamaliaid morol ar restr adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru)
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Balaenoptera acutorostrata | Minke whale | Morfil pigfain |
Balaenoptera physalus | Fin whale | Morfil asgellog llwyd |
Delphinus delphis |
Common dolphin | Dolffin cyffredin |
Globicephala melas | Long-finned pilot whale | Morfil pengrwn |
Grampus griseus |
Risso’s dolphin | Dolffin Risso |
Hyperodon ampullatus |
Northern bottlenose whale | Morfil trwyn potel |
Lagenorhynchus acutus | Atlantic white-sided dolphin | Dolffin ystlyswyn |
Lagenorhynchus albirostris | White-beaked dolphin | Dolffin pigwyn |
Megaptera novaeangliae |
Humpback whale | Morfil cefngrwm |
Orcinus orca |
Killer whale | Lleiddiad, orca |
Phocoena phocoena |
Harbour porpoise | Llamhidydd |
Stenella coeruleoalba | Striped dolphin | Dolffin rhesog |
Tursiops truncatus | Bottlenose dolphin | Dolffin trwyn potel |
Ziphius cavirostris | Cuvier’s beaked whale | Morfil gylfinog Cuvier |
Lutra lutra | Otter | Dyfrgi |
Mae 14 rhywogaeth o forfilod ar restr adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru), ynghyd â’r dyfrgi. Nid yw morloi wedi'u cynnwys yn y rhestr. Nid ydym yn dod ar draws llawer o'r rhywogaethau hyn yn aml, ond serch hynny maent yn dal i gael eu cynnwys o dan y Ddeddf hon.
Gwarchodir mamaliaid morol yn gryf o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Y Rheoliadau Cynefinoedd). Rhaid gwarchod ardaloedd cynhaliol o’u cynefin ac, yng Nghymru, mae safleoedd wedi’u dylunio ar gyfer dolffiniaid trwyn potel, llamhidyddion, morloi llwyd a dyfrgwn. Mae saith ACA yng Nghymru sydd â mamaliaid morol yn nodwedd ohonynt. Mae pob aelod o deulu'r morfilod, a’r dyfrgi hefyd yn Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop sy'n cael eu hamddiffyn yn llym lle bynnag y maent.
O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y’i diwygiwyd), mae’n anghyfreithlon aflonyddu ar y rhywogaethau hyn, eu lladd, eu cadw neu eu gwerthu yn fwriadol neu’n fyrbwyll o dan wahanol adrannau o’r Ddeddf.
Mae'r Ddeddf hefyd yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu SoDdGAau ar gyfer rhywogaethau a chynefinoedd o ddiddordeb. Mae 24 SoDdGA arfordirol ac aberol yng Nghymru lle mae morloi llwyd, dolffiniaid trwyn potel neu ddyfrgwn yn nodwedd hysbysedig a/neu gymhwysol ohonynt.
Yn ogystal, mae morloi yng Nghymru wedi’u gwarchod o dan Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970. Mae’r Ddeddf hon yn darparu ar gyfer diogelu, cadwraeth a rheoli morloi ac yn gwahardd lladd, anafu neu gymryd morloi yn nyfroedd Cymru.
Mae dogfen gynhwysfawr yn bodoli sy'n amlinellu deddfwriaeth cadwraeth fertebratau morol yng Nghymru, er y dylid nodi ei bod yn rhagddyddio Brexit a diwygiadau i Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970.
Un prosiect arbennig o hirsefydlog yw’r cyfrifiad blynyddol o forloi llwyd bychain y mae CNC wedi’i gynnal ar Ynys Skomer ers 1983. Nodir nifer y morloi bychain ac amseriad y geni, ac ynghyd â hynny tynnir lluniau o unigolion er mwyn dysgu mwy am y boblogaeth (o ran ei maint a’i thuedd) ac i gofnodi arwyddion o fynd yn sownd mewn rhwydi ac ati.
Ceir nifer o brosiectau gwyddor dinasyddion yng Nghymru sydd â’r nod o gynnwys y cyhoedd mewn cyflwyno cofnodion o weld mamaliaid morol er mwyn creu darlun o’u presenoldeb a’u dosbarthiad. Nod prosiect Gwylwyr Môr Cymru (sy’n cael ei gynnal gan Sefydliad Gwylio'r Môr) a sefydlwyd yn 2013, yw sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr ymroddedig, sy’n gwirfoddoli eu hamser i fonitro, addysgu a chodi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o forfilod a geir yng Nghymru. Gorchwyl ‘Gwylwyr y Môr’ yw sefydlu eu harolygon tir eu hunain a threfnu digwyddiadau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a chymryd rhan ynddynt.
Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yng Nghei Newydd, gorllewin Cymru, yn cynnal gwaith ymchwil gan gasglu data ar y boblogaeth leol o ddolffiniaid trwyn potel a nodi drwy ffotograffau. Mae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion hefyd yn rheoli safle Cei Newydd ar gyfer prosiect ‘Gwylio Dolffiniaid’ Cyngor Sir Ceredigion. Mae ‘Gwylio dolffiniaid’ hefyd wedi bod yn digwydd yn Abersoch ym Mhenrhyn Llŷn yn ddiweddar ac mae gwirfoddolwyr yn monitro cydymffurfedd â'r cod morol.