Gellir categoreiddio pysgod morol fel a ganlyn:
Mae’n anodd amcangyfrif nifer y pysgod yng Nghymru yn fanwl gywir – mae hyd at 500 o rywogaethau wedi’u cofnodi yn y DU ac Iwerddon, y mae o leiaf 250 ohonynt wedi’u canfod oddi ar arfordiroedd Cymru. Pysgod esgyrnog yw'r mwyafrif o'r rhain, gyda thua 25 o rywogaethau o bysgod cartilagaidd (morgathod, morgwn, siarcod) a thri physgodyn heb ên (llysywod pendoll ac ellyllon môr).
Mae pysgod morol yn meddiannu amrywiaeth eang o gilfachau ecolegol yng Nghymru. Mae llawer yn byw mewn ardaloedd ger y lan ac yn gyfarwydd i ni fel trigolion pyllau glan môr, fel y llyfrothod, y gobïod a’r llyfrothod penddu. Mae'r rhain yn cyferbynnu â rhywogaethau fel y tiwna mawr Thunnus thynnus, a all dyfu i dros 400 kg ac a geir yn dymhorol oddi ar arfordir de orllewin Cymru. Mae'r heulgi, a all fod yn 10 metr o hyd, yn rhywogaeth sydd hefyd yn mynd ar fudiadau mawr, ac fe’i gwelir yn achlysurol oddi ar arfordiroedd gorllewinol Cymru yn bwydo ar blancton rhwng mis Mai a mis Medi.
Ceir amrywiaeth fawr yn sut mae cyrff pysgod morol yn edrych, o’r pibellau môr a’r llysywod hirfain i siâp gwastad nodweddiadol y lledennod esgyrnog (e.e. y lleden goch) a’r morgathod / morgwn. Mae’r amrywiaeth ymhlith pysgod morol yr un mor helaeth o ran ymddygiadau hanes bywyd a strategaethau atgenhedlu. Gall pysgod benthig, a geir ar wely'r môr, fod yn gymharol eisteddog; mae gan y glynwr sugnwr sydd ei alluogi i lynu wrth ochr isaf creigiau. Mae'r gwryw yn aros o dan graig i warchod yr wyau. Mae hyn yn cyferbynnu â rhywogaethau cefnforol fel y pennog a’r llymrïen, a geir mewn heigiau mawr ac yn silio dros ardaloedd helaeth o wely'r môr. Mae morgathod a morgwn yn enwog am gynhyrchu pyrsiau ‘môr-forynion’ cywrain. Mae'r rhain yn gasys wyau caled sydd ynghlwm wrth wely'r môr lle mae embryonau'r epil yn datblygu. Yn aml, gellir dod o hyd i'r casys gwag wedi'u golchi i fyny ar draethau. Mae'r morfarch myngog eiconig Hippocampus guttulatus yn brin yng Nghymru. Mae gwrywod yn enwog am fagu'r wyau yn eu cwdyn fentrol, ac mae’r gallu ganddynt i drawsnewid patrymau lliw yn gyflym er mwyn cydweddu â'u hamgylchedd uniongyrchol.
Mae rhai rhywogaethau o bysgod yn ymfudo i ddyfroedd Cymru, a welir yn arbennig yn ne a gorllewin Cymru, mae'r rhain yn cynnwys rhywogaethau eiconig fel y pysgodyn haul Mola mola, sef y pysgodyn esgyrnog trymaf yn y byd. Fel arfer deuir ar eu traws pan fyddant yn drifftio ar yr wyneb, gyda'u hasgell ddorsal i'w gweld yn fflopio o ochr i ochr.
Mae rhai o bysgod Cymru yn ymfudol, gan dreulio rhan o'u cylch bywyd mewn amgylchedd dŵr croyw a rhan ohono yn yr amgylchedd morol. Gelwir pysgod sy'n cael eu deor mewn dŵr croyw, sy’n treulio’r rhan fwyaf o'u bywyd yn yr amgylchedd morol ac yna'n mudo'n ôl i ddŵr croyw i silio yn bysgod esgynnol. Mae'r rhain yn cynnwys eog yr Iwerydd Salmo salar, llysywen bendoll yr afon a llysywen bendoll y môr Lampetra fluviatilis a Petromyzon marinus, yr herlyn a’r wangen, (Alosa alosa ac Alosa fallax). Mae gan y llysywen Ewropeaidd Anguilla Anguilla batrwm tebyg ond wedi'i wrthdroi, Mae'n deor yn y môr, ac yn teithio i afonydd lle mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i gyfnodau bywyd fel oedolyn cyn dychwelyd i'r môr i fridio. Mae'r rhywogaethau ymfudol hyn yn wynebu bygythiadau i'w symudiad i fyny ac i lawr afonydd ac mae nifer o fentrau ar y gweill i gael gwared ar rwystrau a'i gwneud yn haws iddynt symud. Mae eog yr Iwerydd a’r llysywen Ewropeaidd ill dau o dan fygythiad arbennig yng Nghymru a bu dirywiad enfawr ynddynt yn ystod y 30 mlynedd diwethaf.
Mae llawer o’r rhywogaethau o bysgod morol yng Nghymru, gan gynnwys rhai o’r rheini sydd wedi’u cynnwys ar restr adran 7, yn cael eu dal ar gyfer bwyd (y pennog, y penfras a’r macrell) ac maent yn sylfaenol i bysgodfeydd.
Mae pysgod morol yng Nghymru yn cael eu gwarchod o dan nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth. Mae pysgod esgyrnog a chartilagaidd wedi'u rhestru yn rhestr adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru).
Pysgod esgyrnog wedi'u cynnwys ar restr adran 7
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Ammodytes marinus | Sand-eel | Llymrïen |
Clupea harengus | Herring | Pennog |
Gadus morhua | Cod | Penfras |
Hippocampus guttulatus | Long snouted seahorse | Morfarch myngog |
Lophius piscatorius | Sea monkfish | Cythraul y môr |
Merlangius merlangus | Whiting | Gwyniad môr |
Merluccius merluccius | European hake | Cegddu |
Molva molva | Ling | Honos |
Pleuronectes platessa | Plaice | Lleden goch |
Scomber scombrus | Mackerel | Macrell |
Solea solea | Sole | Lleden chwithig |
Trachurus trachurus | Horse mackerel | Marchfacrell |
Pysgod esgyrnog ymfudol wedi'u cynnwys ar restr adran 7
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Alosa alosa | Allis shad | Herlyn |
Alosa fallax | Twaite shad | Gwangen |
European eel | Llysywen | |
Lampetra fluviatilis | River lamprey | Llysywen bendoll yr afon |
Petromyzon marinus | Sea lamprey | Llysywen bendoll y môr |
Salmo salar | Atlantic salmon | Eog |
Salmo trutta | Brown / Sea trout | Brithyll / Siwin |
Pysgod cartilaginaidd wedi'u cynnwys ar restr adran 7
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Cetorhinus maximus | Basking shark | Heulgi |
Dipturus batis | Common skate | Morgath |
Galeorhinus galeus | Tope shark | Ci glas |
Lamna nasus | Porbeagle shark | Corgi môr |
Prionace glauca | Blue shark | Morgi glas |
Raja brachyura | Blonde ray | Morgath felen |
Raja clavate | Thornback ray | Morgath styds |
Raja undulata | Undulate ray | Morgath donnog |
Rostroraja alba | White or Bottlenosed skate | Morgath wen |
Squalus acanthias | Spiny dogfish | Ci pigog |
Squatina squatina | Angel shark | Maelgi |
Mae pedair rhywogaeth o bysgod morol a geir yng Nghymru wedi’u gwarchod yn ychwanegol o dan Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Y rhain yw’r heulgi, y maelgi, y forgath wen a'r morfarch myngog.
Mae hefyd pum pysgodyn sydd i'w cael yng Nghymru (sydd ag elfen forol yn hanes eu bywyd) wedi'u cynnwys yn Atodiad II i Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r Gymuned Ewropeaidd, sef llysywen bendoll y môr, llysywen bendoll yr afon, yr herlyn, y wangen ac eog yr Iwerydd.
Mae pysgod eraill a geir yn nyfroedd morol Cymru ac sydd ar restr rhywogaethau OSPAR ond nad ydynt wedi’u rhestru uchod, yn cynnwys y tiwna mawr, rhywogaeth y styrsiwn Ewropeaidd ymfudol Acipenser sturio, y morgi cegeidiol deilgen dyfnfor Centrephorus squamosus a’r morgi cegeidiol Centrophorus granulosus.
Siarcod, morgathod a morgwn (elasmobranciaid)
Cymharol ychydig a wyddys am siarcod, morgathod a morgwn fel grŵp, ond maent yn bwysig iawn o safbwynt diwylliannol a chadwraethol yng Nghymru. Mae Prosiect SIARC (Sharks Inspiring Action and Research with Communities) yn cyflwyno rhaglen ymchwil integredig pysgotwyr yn benodol i gasglu data ar elasmobranciaid a'u cynefinoedd cysylltiedig mewn dwy Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru. Mae Prosiect SIARC yn brosiect amlddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar elasmobranciaid o bwysigrwydd cadwraeth, gan gynnwys y maelgi (rhestr goch IUCN) Squatina squatina sydd mewn perygl difrifol. Gan gyfuno'r gwyddorau cymdeithasol a biolegol, nod y prosiect yw mynd i'r afael â bylchau yn y data hanfodol ar ecoleg elasmobranciaid, amrywio cyfleoedd ar gyfer cadwraeth forol, creu mwy o werthfawrogiad o'r amgylchedd tanddwr ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf. Arweinir y prosiect gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac mae'n cael ei gwblhau mewn partneriaeth â chwe phartner cyflawni a 13 o bartneriaid cydweithredol.
Mae nifer o brosiectau yng Nghymru yn canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i fudo pysgod, gan hwyluso llwybrau pysgod o amgylcheddau morol i rannau uchaf afonydd Cymru ar gyfer silio. Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy yn brosiect gwerth £6.8m sy’n canolbwyntio ar afon Dyfrdwy yn nwyrain Cymru, sy’n canolbwyntio’n helaeth gynyddu nifer yr eogiaid a llyswennod pendoll, sy’n cynnwys cael gwared ar gyfyngiadau ar fudo pysgod a gosod llwybrau pysgod.
Mae prosiect LIFE arall o'r enw ‘Prosiect Pedair Afon LIFE’ ar y gweill ar bedair afon sydd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn ne Cymru (afon Teifi, afon Cleddau, afon Tywi ac afon Wysg) sydd â'r nod o adfer rhywogaethau o bysgod ymfudol gwarchodedig ledled eu cynefin afonol yn yr un modd.
Mae gan Afonydd Cymru hefyd brosiectau ar y gweill i gael gwared ar rwystrau i fudo, yn enwedig ar gyfer eogiaid.