Morwellt yw'r unig blanhigion blodeuol (angiosbermau) sy'n gallu byw mewn dŵr môr. Fel planhigion daearol, mae gan forwellt wreiddiau, coesynnau a dail, ac maent yn atgenhedlu drwy gynhyrchu blodau a hadau. Mae ganddynt goesynnau (rhisomau) sy'n ymlusgo'n llorweddol o dan wyneb y gwaddod ac yna'n saethu i fyny uwchben yr wyneb gan ffurfio ‘dolydd’ tanddwr, trwchus yn aml. Mae'r cynefinoedd biogenig hyn i'w cael mewn mannau cysgodol â gwaddod. Gallant orchuddio ardaloedd eang ac maent yn chwarae rhan bwysig mewn cynnal amrywiaeth o fflora a ffawna eraill.
Mae dwy rywogaeth wir o forwellt yng Nghymru. Zostera marina (gwellt y gamlas), a geir yn nodweddiadol ar waelodion tywodlyd yn y parth islanwol o tua 4 metr o ddyfnder i'r parth rhynglanwol isaf, a Zostera noltii (corwellt y gamlas), sy’n rhywogaeth rynglanwol. Mae Zostera angustifolia bellach yn cael ei ystyried yn ecodeip o Z. marina. Genws o blanhigion dŵr croyw dyfrol sydd i'w cael yng Nghymru yw Ruppia spp (dyfrllys), sy’n meddiannu cilfach tebyg ac â chanddo oddefiad halltedd tebyg i rywogaethau o Zostera ac fe’u hystyrir yn yr un modd â morwellt.
Mae gwelyau o Zostera o amgylch Cymru yn gyfyngedig eu dosbarthiad – mae'r mwyafrif i'w cael mewn baeau, cilfachau ac aberoedd cysgodol ac wedi'u cyfyngu i lai na 10 lleoliad mawr hysbys. Gall y rhain fod ar ffurf gwelyau rhynglanwol neu islanwol ynysig neu fel un gwely di-dor lle mae'r clystyrau rhynglanwol ac isarforol yn uno (e.e. fel ym Mhorthdinllaen ar arfordir gogleddol penrhyn Llŷn). Mae gwelyau rhynglanwol helaeth o forwellt yn Aberdaugleddau a cheir poblogaethau gwasgaredig yng ngogledd Cymru a gwelyau islanwol ym Mae Tremadog a Gogledd Aberdaugleddau, Skomer. Mae'r gwely mwyaf yn Aber Afon Hafren, sy'n anarferol gan ei fod o fewn clogfeini a swbstrad cymysg ac yn cynnwys cymysgedd o Z. noltii a Z. marina. Mae cofnodion ar gyfer Ruppia spp. yn llawer mwy prin ond fe'u gwelir yn bennaf ar ffurf glaswelltau ynysig mewn pyllau lled hallt sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd o forfa heli.
Mae morwellt wedi dioddef yn sylweddol o glefyd nychlyd yn y gorffennol, ac yn y 1930au bu farw cyfran sylweddol o’r morwellt yn y DU. Mae effeithiau'r clefyd hwn, ynghyd â chanlyniadau effeithiau dynol, yn golygu bod morwellt yn llawer llai helaeth heddiw.
Mae morwellt yn atafaelu ac yn storio carbon sydd wedi’i hydoddi yn ein moroedd – gelwir hyn yn ‘garbon glas’. Mae morwellt yn gynhyrchiol iawn, gan droi symiau mawr o garbon organig yn ddeunydd dail yn gyflym. Mae'r carbon organig hwn yn aml yn cael ei allforio i ecosystemau eraill, gan gael ei ddal wedyn mewn gwaddodion o dan y gwely neu ysgogi gweoedd bwyd eraill, a all arwain at gronni dyddodion carbon hirdymor.
Mae gwelyau morwellt hefyd yn darparu cynefin meithrin pwysig i rywogaethau o bysgod ifanc. Mae tystiolaeth gynyddol bellach bod y rôl hon yn amlwg yng ngwelyau morwellt y DU, ac mae amrywiaeth o astudiaethau’n cadarnhau eu bod yn chwarae rôl o’r fath i nifer o rywogaethau o bwysigrwydd masnachol (e.e. lledod, draenogiaid y môr a phenfreision). Mae gwelyau morwellt yn gynefinoedd parhaol ar gyfer rhywogaethau o'r pwys mwyaf o ran cadwraeth yng Nghymru, megis sglefrod môr coesynnog a morfeirch. Maent hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn sefydlogi gwaddodion, yn enwedig pan fo gwelyau trwchus yn bresennol.
Mae gwelyau morwellt hefyd yn chwarae rhan mewn gwanhau tonnau, gan leihau egni'r tonnau sy'n cyrraedd y lan, ac maent felly’n chwarae rhan mewn gwarchod yr arfordir.
Mae dolydd morwellt yn chwarae rhan ddiwylliannol arwyddocaol ar raddfa leol, lle mae cymunedau ac unigolion yn cael lles o ddefnyddio gwelyau morwellt ar gyfer gweithgareddau hamdden.
Er mwyn cydnabod eu pwysigrwydd ecolegol ac economaidd, mae gwelyau morwellt wedi’u gwarchod drwy amrywiaeth o ddeddfwriaeth a pholisïau cadwraeth.
Mae Z. marina (a Z. noltii) wedi'u cwmpasu yn y cynefinoedd yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd Banciau Tywod, Aberoedd, Gwastadeddau Llaid a Gwastadeddau Tywod a Chilfachau a Baeau Bas Mawr. Yng Nghymru, mae gwelyau morwellt yn rhan o nodweddion Atodiad I mewn pum Ardal Cadwraeth Arbennig.
Mae gwelyau morwellt wedi’u cynnwys o dan ‘Gwaddodion Rhynglanwol’ ar y rhestrau adran 7 o gynefinoedd a warchodir o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae gwelyau rhynglanwol o Zostera noltii a Zostera marina yn nodwedd ddynodedig o nifer o SoDdGAau yng Nghymru mewn ardaloedd rhynglanwol.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu nifer o brosiectau adfer morwellt yng Nghymru.
Mae llawer iawn o waith wedi’i wneud ym Mhorthdinllaen, Pen Llŷn, lle mae prosiect yn mynd rhagddo i ddatblygu a gweithredu mesurau rheoli i wella cyflwr y morwellt wrth ganiatáu i ddefnydd presennol y bae barhau.
Mae Seagrass Ocean Rescue (cydweithrediad rhwng partneriaid gan gynnwys Sky Ocean Rescue, WWF, Project Seagrass, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a Fforwm Arfordirol Sir Benfro) yn gweithio i dreialu adfer morwellt mewn ardaloedd arbrofol yng ngorllewin Cymru, gyda'r nod o ehangu hyn i ardaloedd eraill yn y DU.
Yn ogystal, mae prosiect adfer mawr yn mynd rhagddo yng ngogledd Cymru, wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, i adfer 10 hectar o forwellt o amgylch Penrhyn Llŷn ac Ynys Môn. Mae’n cael ei ddarparu gan Seagrass Ocean Rescue mewn cydweithrediad â WWF a Project Seagrass ymhlith eraill.
Mae’r Gymdeithas Cadwraeth Forol hefyd yn gweithio i gyflawni prosiect Trysorau Morol Cymru (rhan o Natur am Byth!). Mae hwn yn brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru sy’n cael ei arwain gan CNC. Mae'n dod â naw elusen amgylcheddol a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghyd i gyflawni rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf y wlad i achub nifer o rywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â natur. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y gwaith gan ddefnyddio Systemau Angori Uwch i alluogi rhagor o ddolydd morwellt i adfer ar ôl difrod angori. Bydd hefyd yn cynnwys adolygiad o waith monitro iechyd morwellt presennol ledled Cymru ac adolygiad o’r ffyrdd y gellir gwella’r gwaith monitro hwn.