Mae infertebratau morol yn hynod amrywiol ac yn cynnwys y grŵp mwyaf amrywiol o anifeiliaid yn ein moroedd. Yn amrywio o'r cimwch mwyaf i blancton microsgopig, mae pob cynefin morol yn cynnwys infertebratau, sy'n cyfrannu'n aruthrol at strwythur a swyddogaeth ein hecosystemau morol ac yn darparu ffynhonnell fwyd bwysig. Mae llawer ohonynt yn symudol, ond mae rhai yn ffurfio eu cynefinoedd eu hunain. Mae infertebratau yn meddiannu llu o gilfachau, o holltau creigiog rhynglanwol i waddodion islanwol dwfn, a cheir ymhell dros 2,000 o rywogaethau o facroinfertebratau yn amgylchedd morol Cymru.
Mae gan lawer o’r infertebratau a geir ym moroedd Cymru gyfnod planctonig, pan fyddant yn aros yn y golofn ddŵr am gyfnod cyntaf eu cylch bywyd cyn iddynt setlo ar wely’r môr a pharhau â’u bywyd fel infertebratau llawndwf (e.e. meroplancton fel crancod a chimychiaid). Mae rhai organebau yn aros fel swoplancton am eu cylch bywyd cyfan (holoplancton).
Ymhlith rhai o gynefinoedd mwyaf eiconig ac ysblennydd Cymru yw’r rheini sy’n cael eu hysgubo gan lanwau a cherhyntau cryf, sy’n cynnal ystod o sbyngau, bryosoaid, chwistrelli môr, hydroidau ac anemonïau trawiadol. Mae gan ardaloedd fel y Fenai, Ynys Skomer ac Ynys Enlli amrywiaeth fawr o’r rhywogaethau lliwgar hyn sy’n bwydo drwy hidlo – sbyngau hirhoedlog a charpedi o anemonïau gemwaith ynghyd â rhywogaethau cysylltiedig fel gwlithod y môr lliwgar – neu noethdagellogion.
Mae'r môr-wyntyll binc Eunicella verrucosa, yn fath o gwrel – cytref o anifeiliaid bach unigol tebyg i anemonïau sy'n rhannu sgerbwd caled sydd ynghlwm wrth greigiau ar wely'r môr. Ni cheir y rhywogaeth hon ond mewn ychydig iawn o leoedd yn y DU, ac maent i’w cael ar ymyl eithaf eu hystod ogleddol yng Nghymru yn sir Benfro, lle credir bod rhai unigolion rhwng 50 a 100 oed.
Mae'r cimwch coch neu gimwch Norwy Palinurus elephas yn gramennog mawr a thrawiadol sydd wedi'i ddosbarthu’n rhywogaeth sy'n agored i niwed ar restr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Dirywiodd yn sylweddol yn ystod y 1960au a’r 1970au, ac mae bellach yn goroesi yng Nghymru yn y moroedd oddi ar Benrhyn Llŷn, Ynys Môn a Sir Benfro, ac mae’n ymddangos bod ei niferoedd yn cynyddu.
Mewn cyferbyniad, mae rhai infertebratau yn byw mewn cynefinoedd gwaddod rhynglanwol ac islanwol ar lannau agored neu mewn aberoedd cysgodol. O wyneb y gwaddod, nid yw’n amlwg o gwbl o’r tyllau bach a marciau ar yr wyneb bod cyfoeth o anifeiliaid yn byw o fewn y gwaddod. Mae'r poblogaethau niferus o fwydod gwrychog, cramenogion a molysgiaid dwygragennog yn bwyta malurion a bwyd o'r golofn ddŵr ac yn eu tro yn darparu llawer o fwyd i ysglyfaethwyr fel pysgod ac adar.
Mae cocos mawr Arctica islandica yn folysgiaid dwygragennog mawr sy’n byw wedi’u claddu mewn gwaddodion – maent yn tyfu’n araf iawn ac yn gallu byw am dros 500 mlynedd, ac mae’n bosibl mai hwn yw’r anifail sy'n byw hiraf ar y Ddaear!
Yn ogystal â'r rhywogaethau hyn sydd i gyd â rhywfaint o amddiffyniad, mae llawer mwy o rywogaethau cyffredin yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws ar y lan. Mae’r rhain yn cynnwys rhywogaethau fel abwyd melys a chocos, a hefyd y rhywogaethau hynny a geir ar y draethlin, yn enwedig ar ôl stormydd, fel gwymon corniog Flustra ceranoides, y môr-lygoden Aphrodita aculeata ac ecinodermiaid, fel y gwelchyn calonffurf Echinocardium cordatum. Mae ecinodermiaid yn unigryw i'r amgylchedd morol – ni all unrhyw ffylwm daearol wneud honiad o'r fath!
(a gasglwyd o ffynonellau lluosog)
Tacsa infertebratau morol | Nifer bras y rhywogaethau yng Nghymru |
Arthropodau – crancod / cimychiaid / cregyn llong / berdys / corynnod môr / chwain traeth | c600 |
Anelidau – mwydod | c560 |
Molysgiaid – gastropodau / cregyn deuglawr / ceffalopodau | c450 - 550 |
Cnidaria – cwrelau, anemonïau, sglefrod môr | c180 |
Porifera – sbyngau | c140 |
Bryosoaid – anifeiliaid mwsogl | c100 |
Ecinodermiaid - sêr môr, draenogod môr, chwerddyfroedd môr | c55 |
Tunicata – chwistrellau môr | c50 |
Mae nifer o infertebratau morol sydd wedi'u gwarchod yn ychwanegol yng Nghymru. Rhestrir 11 o infertebratau yn adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) fel rhywogaeth o'r pwys mwyaf, gan gynnwys cregyn deuglawr fel y gragen wyntyll Atrina fragilis, yr wystrys Ostrea edulis a’r gocosen fawr Arctica islandica, y môr-wyntyll binc Eunicella verrucosa, y cimwch coch Palinurus elephas a dwy rywogaeth o sglefrod môr coesynnog. Mae infertebratau ychwanegol yn ffurfio cynefinoedd sydd wedi’u gwarchod o dan adran 7 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) fel cynefinoedd blaenoriaeth, gan gynnwys cymunedau ar glogfeini rhynglanwol a riffiau biogenig megis y llyngyren ddiliau Sabellaria alveolata, y gragen las Mytilus edulis a’r farchfisglen Modiolus modiolus.
Infertebratau morol ar restr adran 7 – rhywogaethau
Enw'r rhywogaeth | Enw cyffredin y rhywogaeth | Enw Cymraeg y rhywogaeth |
Alkmaria romijni | Tentacled lagoon worm | Llyngyren dentaclog |
Arctica islandica | Icelandic cyprine or Ocean quahog | Cocosen fawr |
Atrina fragilis | Fan mussel | Cragen adain |
Edwardsia timida | Burrowing anemone | Anenome dyllu |
Eunicella verrucosa | Pink sea-fan | Môr-wyntyll binc |
Haliclystus auricula | A stalked jellyfish | Slefren goesynnog |
Lucernariopsis campanulata | A stalked jellyfish | Sglefren fôr goesynnog |
Ostrea edulis | Native oyster | Wystrysen |
Palinurus elephas | Crayfish, crawfish or spiny lobster | Cimwch coch |
Tenellia adspersa | Lagoon sea slug | Môr-wlithen y morlyn |
Enw'r cynefin |
Enw Cymraeg y cynefin |
Musculus discors beds (Musculus discors) |
Gwelyau Musculus discors |
Blue mussel beds | Gwelyau o gregyn glas |
Horse mussel beds | Gwelyau o farchfisglod |
Fragile sponge & anthozoan communities on subtidal rocky habitats | Cymunedau bregus o sbyngau ac anthosoaid ar gynefinoedd creigiog islanw |
Sabellaria alveolata reefs |
Riffiau Sabellaria alveolata |
Intertidal boulder communities | Cymunedau ar glogfeini rhynglanwol |
Ceir tri chynefin arall ychwanegol sydd ar restr OSPAR o rywogaethau sydd dan fygythiad ac yn dirywio; Gwelyau wystrys Ostrea edulis, Sabellaria spinulosa a cwils môr a megaffawna tyllu.
Mae llawer o'r rhywogaethau hyn hefyd wedi'u rhestru o dan adrannau amrywiol o adran 9 o'r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad, sy'n gwarchod rhag eu lladd a’u cymryd, eu haflonyddu, eu gwerthu neu eu hysbysebu. Mae'r infertebratau hyn yn cynnwys llyngyren dentaclog y morlyn Alkmaria romijni, môr-wlithen y morlyn Tenellia adspersa, y môr-wyntyll binc a’r gragen wyntyll.
Nid oes unrhyw infertebratau morol wedi'u cynnwys yn Atodiad II i Gyfarwyddeb Cynefinoedd a Rhywogaethau'r Gymuned Ewropeaidd. Fodd bynnag, mae llawer o infertebratau wedi’u nodi fel rhywogaethau o bwys sy'n gysylltiedig â chynefinoedd Atodiad 1, megis ‘Riffiau’, gyda llawer ohonynt yn cynnwys riffiau biogenig.
Yn wahanol i lawer o infertebratau daearol, e.e. gloÿnnod byw a gweision y neidr, mae llai o gymdeithasau ymroddedig yn cofnodi'r grwpiau o rywogaethau morol hyn. Fodd bynnag, mae cymdeithasau sy’n canolbwyntio ar wahanol grwpiau (e.e. mae gan y Gymdeithas Cregyn Tro ddiddordeb mewn molysgiaid) ac mae sefydliadau gwirfoddol fel Seasearch yn gweithredu yng Nghymru ac, ynghyd â’r cyrff cyhoeddus a’r cyrff statudol, maent yn cofnodi presenoldeb rhywogaethau o infertebratau morol, gan ddatblygu darlun gwerthfawr o'u dosbarthiad.
Mae gan nifer o'r infertebratau morol eiconig brosiectau cadwraeth wedi'u targedu sy'n canolbwyntio ar adfer a / neu wella rheolaeth.
Fel rhywogaeth ddeheuol, ceir môr-wyntyllau pinc ar gyrion gogleddol eithaf eu dosbarthiad yn Sir Benfro yng Nghymru ac mae eu niferoedd yn dirywio. Mae prosiect Trysorau Morol Cymru (rhan o Natur am Byth!) yn brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Llywodraeth Cymru sy’n cael ei arwain gan CNC. Mae’n dod â naw corff anllywodraethol amgylcheddol a CNC ynghyd i gyflawni rhaglen treftadaeth naturiol ac allgymorth fwyaf Cymru i achub rhywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â’r byd natur.
Bydd Natur am Byth! yn adeiladu ar y gwaith monitro presennol gan Dîm Skomer ym Mharth Cadwraeth Forol Skomer ac yn ceisio gwarchod y boblogaeth o môr-wyntyllau pinc o amgylch Parth Cadwraeth Morol Skomer drwy ymgysylltu â defnyddwyr y môr a chymunedau ynghylch bregusrwydd y rhywogaeth eiconig hon. Caiff effeithiau dynol ar fôr-wyntyllau pinc eu harchwilio a bydd yn nodi mesurau gwirfoddol y gellir eu rhoi ar waith i gefnogi eu cadwraeth.
Mae Prosiect Adfer Wystrys Cymru, a arweinir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn brosiect tair blynedd gan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop, a weinyddir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymchwilio i gwestiynau ynghylch y dull o adfer yr wystrysen Ostrea edulis yn nyfrffordd Aberdaugleddau a’r dichonoldeb o wneud hynny. Prif ffocws y prosiect yw mynd i’r afael â chwestiynau adfer sylfaenol sy’n ymwneud â’r gallu i oroesi, materion recriwtio a dwysedd stocio, wrth hefyd ystyried effeithiau posibl clefyd yr wystrysen Bonamia a rhywogaethau estron.
Hefyd fel rhan o Drysorau Morol Cymru, bydd gwaith adfer y gwelyau wystrys yn Aberdaugleddau yn cael ei brofi a’i ehangu, gan adeiladu ar gynllun gweithredu Wystrys Cymru.
Prosiect arall sy’n gweithio i adfer wystrys yw The Wild Oysters Project. Mae’r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan Gymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL), y Blue Marine Foundation (BLUE) a British Marine ac mae’n gweithio gyda phartneriaid cyflenwi lleol yng Nghymru i ddarparu canolfannau adfer (yng Nghonwy).